Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Trwydded metel sgrap ac adfer darnau cerbydau modur

Os ydych am fod yn ddeliwr metel sgrap neu'n weithredwr adfer darnau cerbydau modur rhaid i chi gael trwydded i fasnachu.

Cofiwch, erbyn hyn mae'n drosedd talu am fetel sgrap ag arian parod.

Mae dau fath o drwydded:

Trwydded safle

Mae trwydded safle yn eich galluogi i fasnachu fel deliwr metel sgrap ar unrhyw safle, neu ar amryw safleoedd, yng Nghaerdydd. Os ydych hefyd am fasnachu rhwng safleoedd mewn awdurdod lleol arall bydd angen i chi wneud cais am drwydded gan yr awdurdod hwn hefyd.

Trwydded casglwr

Mae trwydded casglwr yn caniatáu i chi fasnachu fel casglwr symudol a gwerthu neu waredu metel yn ardal Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys gwerthu a gwaredu darnau o gerbydau modur y gellir eu hadfer.

Mae angen trwyddedau casglu ar wahân i bob ardal cyngor lle'r ydych yn casglu metel/darnau.

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais dylech ddarllen y nodiadau canllaw ar fetel sgrap (PDF, 169 KB)

Gwneud cais drwy'r post

Llenwch y ffurflen gais berthnasol a'i dychwelyd atom drwy'r post neu ar e-bost.

TrwyddeduYstafell 170ACyngor CaerdyddNeuadd y SirCaerdyddCF10 4UW Ebost:[email protected]

Ynghyd â'r ffurflen gais, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

  • Ffotograff pasbort o bob person a enwir ar y cais
  • Y ffi gywir
  • 'Datgeliad Sylfaenol' gan Disclosure Scotland (o fewn y 3 mis diwethaf)

Faint fydd cost trwydded?

Ffioedd a chostau trwyddedu cyffredinol

Gallwch dalu fel a ganlyn:

  • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 029 20871651)
  • Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd')
  • Gallwch hefyd dalu drwy BACS:Cod didoli: 52-21-06Rhif cyfrif: 20408838 Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae pob trwydded deliwr metel sgrap yn destun cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod. Byddwn yn ymgynghori â'r heddlu a Chyfoeth Naturiol Cymru

Os na chawn unrhyw sylwadau ac nad oes gennych unrhyw gollfarnau perthnasol, cewch eich trwydded.

Os cawn eich cynghori i wrthod eich cais, byddwn yn cysylltu â chi ac yn cael cyfle i wneud sylwadau ar eich cais. Yna bydd yr aelod perthnasol o'r Cabinet yn penderfynu ar y cais.

Rhaid dangos y drwydded ar y safle, neu ar gerbyd casglwr symudol, lle gall y cyhoedd ei darllen. Rhaid i werthwyr ddangos prawf adnabod perthnasol (prawf adnabod â ffotograff arno) wrth werthu - rhaid i ddeliwr gadw cofnod o hyn.

Rhagor o wybodaeth

Mae trwyddedau'n ddilys am 3 blynedd, ac yna mae'n rhaid eu hadnewyddu.

Er mwyn dal ati i fasnachu gallai fod angen i chi gael trwyddedau amgylcheddol eraill, fel trwydded cludo gwastraff. Ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni

Cysylltu â ni

029 2087 1651

Gweler hefyd