Nid oes gofyn i chi gael trwydded bersonol i gael eich cyflogi mewn tafarn neu fusnes arall sy'n gwerthu alcohol ond mae'n rhaid i safle sydd wedi'i drwyddedu i werthu alcohol gael Goruchwyliwr Mangre Dynodedig, sy'n gorfod bod â Thrwydded Bersonol.
Er mwyn gwneud cais am Drwydded Bersonol, mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn, a chynnal cymhwyster trwyddedu perthnasol.
Nod y cymhwyster yw sicrhau bod deiliaid trwydded yn ymwybodol o gyfraith drwyddedu a'r cyfrifoldebau cymdeithasol ehangach sy'n ymwneud â gwerthu alcohol.
Mae rhestr lawn o ddarparwyr cymwysterau trwydded bersonol ar gael ar GOV.UK .
Gweld y ffurflen gais am drwydded bersonol i werthu alcohol
Bydd hefyd angen i chi gyflwyno ffurflen ddatgelu erlyniad troseddol sylfaenol. Y ffi am Drwydded Bersonol yw £37.Bydd hefyd angen i chi ddarparu Datgeliad Sylfaenol gan y DBS .
Rhaid dyddio'r datgeliad o fewn mis ar adeg y cais.
Sut i wneud cais
Mae'r ffurflenni perthnasol a rhagor o wybodaeth ar gael yma:
Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a'i dychwelyd atom (yn y post neu mewn person):
Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW
Faint fydd cost trwydded?
Ffi trwydded bersonol yw £37.
Y ffi ar gyfer diweddaru cyfeiriad neu gael trwydded newydd yw £10.50.
Ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (PDF, 268 KB)
Gallwch dalu fel a ganlyn: Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig - 0300 123 6696)Sieciau (yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd') Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a'r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i'r taliad.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Os nad oes gennych unrhyw gollfarnau, eich bod wedi'ch hyfforddi'n addas a'ch bod dros 18 oed, does dim rheswm pam na ddylech allu cael trwydded bersonol.
Mae gan yr heddlu 14 diwrnod i wrthwynebu cais. Os na fydd yr heddlu'n gwrthwynebu a bod y cais yn bodloni'r holl feini prawf, caiff y drwydded ei dyfarnu.
Rhagor o wybodaeth
Unwaith i chi gael y drwydded, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Awdurdod am unrhyw newidiadau i'ch cyfeiriad. Mae'n drosedd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 i beidio â gwneud hynny.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni
Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir
Ffôn: 0300 123 6696. Dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd.
Trwyddedu Cyngor Caerdydd
Ffôn: 029 2087 1651
Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 3pm.
