Mae Switch Together (Solar Together yn flaenorol) yn gynllun prynu grŵp sy'n caniatáu i aelwydydd Caerdydd gael paneli solar a batris storio am bris cystadleuol.
Mae cannoedd o aelwydydd ledled Caerdydd eisoes wedi elwa o'r cynllun.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth ag iChoosr Ltd, sy'n arbenigwyr prynu grŵp annibynnol. Bydd iChoosr Ltd yn eich helpu drwy'r broses ac yn eich hysbysu ar bob cam.
Mae ein rôl wedi'i gyfyngu i hyrwyddo yn unig. Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y cynllun, byddwch yn delio'n uniongyrchol ag iChoosr Ltd ac yn cael contract gyda'i osodwyr cymeradwy.
Caniatâd cynllunio
Nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o osod paneli solar.
Fodd bynnag, os ydych yn byw mewn Ardal Gadwraeth neu adeilad rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd. Cysylltwch â'r Tîm Cadwraeth am fwy o wybodaeth.
Os oes gennych baneli solar yn barod
Os oes gennych baneli solar yn barod, gallwch gofrestru i ychwanegu batris storio at y rhain. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael y gorau o'ch system.
Mwy o wybodaeth am fanteision batris storio.
Sut i gofrestru
Daeth y cyfnod cofrestru ar gyfer y cynllun i ben ar 5 Mehefin 2026. Gallwch cofrestr ar gyfer unrhyw rowndiau o'r cynllun yn y dyfodol ar wefan Switch Together.
