Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cymorth gydag anwedd a llwydni​

Gallai lleithder sy'n cronni yn eich cartref arwain at lwydni. Gallwch osgoi hyn drwy wresogi ac awyru eich cartref.

Gallwch leihau'r lleithder yn eich cartref trwy:

  • gadw'r caeadau ar sosbenni pan fyddwch yn coginio,
  • sychu dillad y tu allan yn hytrach nag ar reiddiadur,
  • gosod agorfa i'ch sychwr dillad y tu allan,
  • osgoi defnyddio gwresogyddion paraffin neu wresogyddion nwy potel, a
  • chael cawodydd a bath oerach.

Gallwch adael aer llaith allan o'ch cartref ac awyr iach i mewn, trwy:

  • ddefnyddio ffaniau echdynnu i gael gwared ar aer llaith ac atal anwedd rhag cronni, a
  • chadw drws eich cegin neu ystafell ymolchi ar gau a ffenestri ar agor wrth goginio neu ymolchi.

Gallech wella cynhesrwydd eich cartref trwy:

  • osod inswleiddio llofft (i'r dyfnder a argymhellir o 270mm),
  • rhoi deunydd atal drafftiau ar ddrysau a ffenestri,
  • inswleiddio waliau ceudod os yw eich cartref yn addas ar ei gyfer, a
  • gosod gwydr dwbl ar ffenestri drafftiog.

Dylech hefyd wresogi ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio, gan fod ystafelloedd oerach yn fwy tebygol o fod â lleithder a llwydni. Mae tymheredd cartref iach rhwng 18 a 23 gradd Celsius.

Gwella ansawdd aer wrth goginio er mwyn gwella lles

Rydym wedi gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a phartneriaid eraill i ymchwilio i sut mae coginio dan do:

  • yn effeithio ar ansawdd aer dan do, ac
  • yn effeithio ar iechyd a lles pobl o leiafrifoedd ethnig.

Gallwch ddysgu mwy am yr ymchwil ar wefan Prifysgol Caerdydd.

Gallwch hefyd ddod o hyd i awgrymiadau a chyngor ymarferol ar sut y gallwch wella eich ansawdd aer wrth goginio ar wefan ORCA Prifysgol Caerdydd.