Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref

Gallwch weld y ffyrdd gwahanol y gallech wella effeithlonrwydd ynni eich cartrefi. Gallwch weld sgôr perfformiad ynni eich eiddo trwy fynd i wefan GOV UK.

Cymru Gynnes

Mae Cymru Gynnes yn cynnig gwasanaeth cyngor a chymorth ynni rhad ac am ddim a diduedd.

Fel rhan o'r gwasanaeth hwn, bydd Cymru Gynnes yn gwneud yn siŵr eich bod yn gymwys ac yn addas ar gyfer ECO4 a GBIS LA Flex, a chynlluniau effeithlonrwydd ynni eraill.

Dysgwch fwy am y gwasanaeth ar wefan Cymru Gynnes.

Ffôn: 0800 091 1786 (dewiswch opsiwn 1)

ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni) a Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr

Os ydych chi'n berchen neu'n rhentu eich cartref yn breifat, gallech dderbyn cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni os:

  • rydych ar incwm isel,
  • mae gennych gyflwr iechyd a allai waethygu drwy fyw mewn cartref oer, neu
  • mae eich cartref ym mand treth gyngor A i D.

Gallwch wneud cais i ECO4 a GBIS drwy linell gyngor Cymru Gynnes.

Gallwch ddysgu mwy o ECO4 a Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr ar wefan GOV.UK.

Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru yn llefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw.

Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i'ch helpu i:

  • leihau eich biliau ynni,
  • cynyddu eich incwm, a
  • lleihau eich ôl troed carbon.

Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim, fel:

  • inswleiddio,
  • pwmp gwres,
  • baneli solar, neu
  • atgyweirio neu osod boeleri newydd (ar gyfer aelwydydd cymwys yn unig).

Dysgwch fwy am y Cynllun Nyth Cartrefi Cynnes ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rhadffôn: 0808 808 2244

Cartrefi Gwyrdd Cymru

Os ydych chi'n berchen ar eich cartref, gallech chi gael benthyciad di-log rhwng £1,000 a £25,000 ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni trwy gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru Llywodraeth Cymru, gyda thelerau ad-dalu hyd at 10 mlynedd.

Darllenwch fwy am Cartrefi Gwyrdd Cymru ar wefan Banc Datblygu Cymru.

 

Cynllun Uwchraddio Boeleri

Os ydych chi'n berchen ar eich cartref, gallwch wneud cais am grant i dalu rhan o'r gost o uwchraddio eich system wresogi i system fwy effeithlon.

Mae mwy o wybodaeth ar wefan GOV UK.