Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Llygod mawr

Mae llygod mawr yn bla cyffredin iawn a all achosi problemau sylweddol i gartrefi. Y rhywogaeth fwyaf cyffredin yw'r llygoden ffyrnig, neu'r llygoden Ffrengig. Mae llygod ffyrnig yn hynod addasadwy ac yn ffynnu mewn amgylcheddau trefol a gwledig. Maen nhw'n aml yn byw yn agos at bobl ac yn nythu mewn:

  • gerddi,
  • siediau,
  • atigau, a
  • cheudodau wal.

Mae llygod mawr yn adnabyddus am niweidio eiddo, halogi bwyd a pheri risgiau iechyd difrifol trwy gario a lledaenu clefydau.

Sut i nodi llygod mawr ac arwyddion o bla

Mae llygod mawr yn llawer mwy na llygod bach, fel yr awgryma'r enw. Gall llygod ffyrnig sy'n oedolion fesur hyd at 40cm o'r trwyn i'r gynffon. Mae ganddyn nhw drwyn fflat, clustiau bach, cynffon drwchus sy'n fyrrach na'r corff a ffwr brown-llwyd bras. Nid yw bob amser yn hawdd gweld y llygod mawr, ond efallai y byddwch yn gweld arwyddion, fel:

  • Baw
    Tywyll, siâp silindr a 1 i 2cm o hyd, yn debyg i syltana. Mae modd ei weld yn aml mewn ardaloedd o grynodiadau ar hyd llwybrau llygod mawr neu ger ffynonellau bwyd.
  • Difrod cnoi
    I'w weld ar bren, plastig, gwifrau, dodrefn a phecynnau bwyd.
  • Traciau
    Gall llygod mawr adael olion traed ar draws arwynebau llychlyd, fel ar ben cwpwrdd cegin neu ar draws llawr garej. Oherwydd ffwr olewog llygod mawr, gallan nhw adael ôl seimllyd ar hyd sgyrtinau.
  • Synau crafu
    Clywed synau crafu o'r tu mewn i waliau, nenfydau neu o dan estyll. Gall hyn fod yn fwy amlwg yn y nos.
  • Nythod
    Mae papur, ffabrig neu inswleiddio wedi torri'n arwydd o lygoden fawr yn defnyddio'r deunydd i adeiladu nyth yn rhywle tawel a chudd.

 

Pam mae llygod mawr yn broblem

  • Gall llygod mawr gario amrywiaeth o glefydau niweidiol, gan gynnwys Clefyd Weil a Salmonelosis.
  • Gall llygod mawr achosi difrod i wifrau trydanol, dodrefn, strwythurau pren a thoeau, a all arwain at ddifrod strwythurol.
  • Mae llygod mawr yn bridio'n gyflym iawn, gall hyn arwain at blâu mawr os nad yw'r broblem yn cael ei datrys yn gyflym.

 

Beth sy'n denu llygod mawr?

Mae llygod mawr yn oportiwnistaidd a byddan nhw'n manteisio ar unrhyw amgylchedd sy'n cynnig mynediad hawdd at fwyd, dŵr a lloches. Maen nhw'n cael eu denu at y canlynol:

  • Biniau sbwriel heb eu selio
    Biniau sy'n gorlifo neu sydd wedi'u selio'n wael.
  • Bwydwyr adar a bwyd wedi'i ollwng
    Hadau adar gormodol, yn enwedig rhai sydd wedi'u gadael ar y ddaear.
  • Pentyrrau compost
    Yn enwedig os ydyn nhw'n cynnwys darnau bwyd neu nad ydyn nhw'n cael eu rheoli'n iawn.
  • Bwyd anifeiliaid anwes
    Wedi'i adael y tu allan neu mewn sied mewn bagiau neu bowlenni agored. Gall anifeiliaid anwes awyr agored, fel moch cwta, ddenu llygod mawr drwy fwyd mewn cytiau a lleoedd storio.
  • Dŵr llonydd
    Pibellau sy'n gollwng, tapiau sy'n diferu, cwteri wedi'u rhwystro, neu hambyrddau o dan botiau blodau.
  • Gerddi
    Mae glaswellt tal, pentyrrau coed, ac eitemau heb eu defnyddio yn cynnig cuddfannau a lloches. Gall gwelyau ffrwythau a llysiau hefyd ddod yn ffynonellau bwyd hawdd.
  • Draeniau
    Gall systemau draenio sydd wedi'u difrodi, fel toriadau mewn pibellau, roi mynediad hawdd iddyn nhw o systemau draenio i erddi ac eiddo.
  • Bylchau mewn gwaith brics
    Gall fentiau diffygiol neu waith brics wedi'i ddifrodi gynnig mynediad i geudodau wal.

 

Gwaredu llygoden fawr farw

Os ydych yn dod o hyd i lygoden fawr farw ar eich eiddo, mae'n bwysig ei gwaredu'n ddiogel:

  • Gwisgwch fenig - peidiwch â chyffwrdd â'r llygoden fawr gyda dwylo noeth.
  • Defnyddiwch raw neu offer tafladwy i'w chodi.
  • Rhowch y corff mewn dau fag plastig cryf gan glymu'n ddiogel.
  • Rhowch y bag yn eich gwastraff cyffredinol - peidiwch â rhoi'r bag yn eich gwastraff gardd neu eich ailgylchu.
  • Diheintiwch yr ardal lle daethpwyd o hyd i'r llygoden fawr gan ddefnyddio glanedydd addas.
  • Golchwch eich dwylo'n drylwyr ar ôl tynnu'r menig.

 

Trefnu apwyntiad

Trefnu apwyntiad rheoli plâu

Cyn eich apwyntiad

Cyn i'r technegydd gyrraedd, cymerwch gamau i baratoi eich cartref ar gyfer y driniaeth:

  • Glanhewch a thacluswch
    Caniatewch fynediad i sgyrtinau, agorfeydd atig, a thu ôl i offer.
  • Storiwch fwyd yn ddiogel
    Symudwch fwyd o loriau a chownteri, seliwch gynwysyddion bwyd a storiwch nhw mewn lle diogel.
  • Diogelwch anifeiliaid anwes a bwyd anifeiliaid anwes
    Symudwch fwyd anifeiliaid anwes o'r llawr, seliwch gynwysyddion bwyd anifeiliaid anwes a chyfyngwch ar fynediad i anifeiliaid anwes yn ystod y driniaeth.
  • Rhowch wybod am arwyddion o weithgarwch
    Gwnewch nodyn o unrhyw achosion o weld llygod mawr, baw, cnoi neu synau.

Bydd y driniaeth yn cynnwys abwyd a nodi pwyntiau mynediad ar gyfer diogelu at y dyfodol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw gyngor ôl-ofal a gaiff ei roi gan y technegydd.

Canslo apwyntiad

Rhaid i chi roi 24 awr o rybudd i ganslo apwyntiad. Os na fyddwch yn rhoi'r rhybudd hwn, bydd yn cyfrif fel 1 apwyntiad o'ch cynllun triniaeth.

 

Llygod mawr mewn mannau cyhoeddus

Os ydych chi wedi gweld llygoden fawr mewn man cyhoeddus, fel ar y stryd neu mewn parc, gallwch roi gwybod i ni am hyn.

Rhoi gwybod am lygoden fawr mewn man cyhoeddus