Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwybodaeth cyn cyflwyno cais SDCau

Mae'r gwasanaeth cyn ymgeisio CCDC yn wasanaeth disgresiynol a gynigir i drafod gofynion draenio eich safle a'r wybodaeth y mae angen ei chyflwyno gyda'ch cais CCDC.

Rydym yn argymell yn gryf bod datblygwyr yn ystyried ymgysylltu'n gynnar yn ystod y cam dylunio cysyniadol/cyn cais er mwyn lleihau'r gost, lleihau oedi wrth ddatblygu, osgoi unrhyw addasiadau yn y dyfodol i gynlluniau safle a sicrhau bod y cynigion yn unol â safonau statudol Llywodraeth Cymru.

Bydd manteision y pecyn cyn cais yn dibynnu ar lefel yr wybodaeth a gyflwynir i'r swyddog CCDC. Mae gwybodaeth allweddol a fyddai o fudd ar gyfer trafodaeth cyn ymgeisio gynhyrchiol yn cynnwys:

  • Manylion amodau tiroedd ac unrhyw ymchwiliadau safle a gwblhawyd.
  • Manylion topograffi safle
  • Manylion cyrsiau dŵr sydd yno a ffiniau'r safle
  • Manylion unrhyw amgylcheddau sensitif y gallai'r datblygiad effeithio arnyn nhw
  • Asesiad o'r risg presennol o lifogydd o bob ffynhonnell.
  • Cynllun yn nodi'r ardal anhydraidd ar hyn o bryd (os yw'r tir eisoes wedi ei ddatblygu)
  • Cynllun draenio dalgylch ar gyfer y datblygiad a'r datblygiad arfaethedig
  • Manylion y llwybrau llif naturio ar hyd y tir
  • Datganiad cydymffurfio â'r Safonau ac Egwyddorion Cenedlaethol

Argymhellir yn gryf eich bod yn ymgysylltu â pheiriannydd sydd â chymwysterau addas i'ch helpu i ddatblygu eich cynigion ar gyfer y safle.

Ffioedd/taliadau cyn ymgeisio

Rydym wedi rhannu ein gwasanaeth cyn ymgeisio yn ddau becyn:

Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio (heb gynnwys cyfarfod â Chorff Cymeradwyo SDCau)
Maint y datblygiadFfiAllbynnau
Mân Ddatblygiadau (1-9 o anheddau, rhwng 100m² a 999m²)£355
  • Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
  • Creu adroddiad
Datblygiadau Mawr (10-24 o anheddau, rhwng 1,000m² a 1, 999m²)£747
  • Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
  • Creu adroddiad
Datblygiad Mawr Iawn (mwy na 24 o anheddau, dros 1,999m²)£1,092
  • Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
  • Creu adroddiad

 

Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio (yn cynnwys cyfarfod â Chorff Cymeradwyo SDCau)
Maint y datblygiadFfiAllbynnau
Mân Ddatblygiadau (1-9 o anheddau, rhwng 100m² a 999m²)£628
  • Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
  • Awr o gyfarfod*
  • Creu adroddiad ar ôl cyfarfod
Datblygiadau Mawr (10-24 o anheddau, rhwng 1,000m² a 1, 999m²)£865
  • Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
  • Awr o gyfarfod*
  • Creu adroddiad ar ôl cyfarfod
Datblygiad Mawr Iawn (mwy na 24 o anheddau, dros 1,999m²)£1,442
  • Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
  • Awr o gyfarfod*
  • Creu adroddiad ar ôl cyfarfod

 

Ymweliad â'r Safle
Maint y datblygiadFfiAllbynnau
Pob Datblygiad£173 yr ymweliadBydd angen talu cost yr ymweliad safle yn ogystal â phecyn cyn ymgeisio. Mae'r gost yn cynnwys treuliau teithio.

 

Cyngor Technegol
Maint y datblygiadFfiAllbynnau
Pob Datblygiad£115 yr awrYmateg technegol i gwestiwn penodol. Nid yw hyn yn rhan o'r Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio.

 

*Codir tâl am oriau ychwanegol fesul awr.

Byddwn yn darparu'r gwasanaethay disgresiynol hyn o fewn 28 diwrnod wedi cyflwyno'r dogfennau a'r ffioedd cysylltiedig. Rhaid talu'r ffioedd llawn o flaen llaw ac ni roddir ad-daliadau. Codir TAW hefyd ar wasanaethau disgresiynol.

Sylwer: Mae'r gwasanaeth hwn ar wahân i'r gwasanaeth ymgeisio cyn cynllunio

Sut mae gwneud cais am gyngor cyn ymgeisio?

E-bostiwch [email protected] i drefnu cyfarfod â Chorff Cymeradwyo CCDC.