Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Diogelu coed

Byddwn yn rhoi Gorchmynion Cadw Coed (GCC) ar goed a choetiroedd penodol yng Nghaerdydd i helpu i'w diogelu.

Mae'n anghyfreithlon torri, tocio, dinistrio neu ddifrodi coed sydd dan GCC, oni bai ein bod wedi rhoi caniatâd i chi wneud hynny.

Gwiriwch ein map ar gyfer coed gyda gorchmynion cadw.

Dysgwch ragor am Orchmynion Cadw Coed ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwneud cais am ganiatâd

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am waith coed (PDF, 179 KB).

Gallwch anfon y ffurflen wedi'i chwblhau atom drwy'r post neu e-bost.

E-bost: [email protected]

Rheoli Datblygu (GCC)
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

Os yw'r goeden neu'r coetir yr ydych am weithio arno mewn ardal gadwraeth, gallwch wneud cais am ganiatâd gan ddefnyddio'r un ffurflen.

Darllenwch Ganllaw Cynllunio Atodol Coed a Datblygu (10.6mb PDF) i ddysgu sut rydym yn asesu cynigion datblygu a allai effeithio ar goed, coetiroedd a gwrychoedd yng Nghaerdydd.