Gallwch roi gwybod am wrychoedd sydd wedi gordyfu mewn man cyhoeddus, gan gynnwys:
- llwybrau cyhoeddus,
- parciau, neu
- arwyddion ffyrdd sydd wedi'u gorchuddio.
Gofyn am gyngor ynghylch perth uchel
Rhowch wybod i ni am broblem gyda choeden mewn parc neu fan gwyrdd.
Problem gyda pherth uchel ar eiddo cyfagos
Os oes gennych broblem gyda pherth uchel ar dir cymydog, siaradwch â'ch cymydog i geisio datrys y mater. Ewch i GOV.UK am gyngor ar berthi uchel.
Os na allwch ddatrys y broblem neu os yw'ch cymydog yn gwrthod siarad â chi, gallwch gysylltu â gwasanaeth cyfryngu'r DU am help.
Cyngor ynghylch perthi uchel
Cyn gofyn am gyngor am berth uchel, dylech wneud y canlynol:
- siarad â'ch cymydog wyneb yn wyneb,
- cysylltu â nhw'n ysgrifenedig, a
- rhoi gwybod iddynt eich bod yn bwriadu cysylltu â ni.
Cadwch gopïau o lythyrau a anfonwch a dyddiadur o sgyrsiau a gewch gyda'ch cymydog.
Os na allwch ddatrys y broblem o hyd, gallwch gysylltu â ni am gyngor pellach. Dim ond os ydych wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i ddatrys y broblem eich hun y gallwn gynnig cymorth.
Fel dewis olaf, efallai y byddwn yn argymell i chi wneud cwyn yn erbyn eich cymydog os yw'ch achos yn bodloni'r meini prawf derbyn.
Gofyn am gyngor ynghylch perth uchel
Gwneud cwyn
Codir tâl o £320 arnoch os byddwn yn derbyn eich cwyn. Nid oes modd cael ad-daliad am y ffi hon.
Er mwyn i'r gŵyn gael ei derbyn, rhaid i'r berth fod:
- ar dir sy'n eiddo i rywun heblaw amdanoch chi (yr achwynydd),
- yn effeithio ar eiddo domestig,
- yn effeithio ar fwynhad rhesymol yr eiddo domestig,
- wedi ei phrynu gan berchennog neu feddiannydd yr eiddo hwnnw,
- yn cynnwys llinell o 2 neu fwy o goed neu lwyni,
- yn fytholwyrdd yn bennaf neu'n rhannol fytholwyrdd
- dros 2 fetr o uchder o lefel y ddaear, ac
- yn gweithredu fel rhwystr i olau neu fynediad.
Byddwn yn asesu eich cwyn ac yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf.
