Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Tai ar-lein

Dyma ein safle ar-lein ar gyfer tenantiaid tai ac ymgeiswyr tai, lle gallwch:

  • Lenwi ffurflen cais am dai
  • Diweddaru eich e-bost a'ch manylion cyswllt

Gall tenantiaid Cyngor Caerdydd hefyd:

  • Wirio balansau eich cyfrifon, yn cynnwys cyfrifon rhent, cyn-denantiaeth a gwaith atgyweirio y gellir ailgodi tâl amdano
  • Gwirio eich trafodion
  • Gwirio eich cyfriflen
  • Gweld eich rhestr daliadau
  • Gwneud taliad trwy gerdyn debyd neu gredyd

Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi gan ddefnyddio'r botwm botwm mewngofnodi i tai ar-lein.

Sut i gofrestru

Mae cofrestru'n hawdd, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio ar y botwm 'Mewngofnodi i Tai Ar-lein' a dilyn y cyfarwyddiadau syml.

Os ydych yn denant presennol i Gyngor Caerdydd, bod gennych hen gyfrif tenant Cyngor Caerdydd, cyfrif gwaith atgyweirio y gellir codi tâl amdano Cyngor Caerdydd neu os ydych wedi gwneud cais am Dai o'r blaen, cofrestrwch drwy ddewis y botwm 'Ymgeiswyr a thenantiaid presennol - Cofrestru'.

Bydd angen:

  • Eich rhif cyfeirnod person: dylai'r rhif 6 digid hwn fod ar gael ar unrhyw ohebiaeth ddiweddar mewn perthynas â'r cyfrif
  • Cyfeiriad e-bost gweithredol


Os nad ydych yn gwybod eich rhif cyfeirnod person

Ar gyfer tenantiaid Cadwyn, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, Hafod, Linc Cymru, Newydd, Wales and West, United Welsh a Chymdeithas Tai Taf, bydd angen i chi gysylltu â'ch Cymdeithas Dai yn uniongyrchol i ofyn iddynt am eich cyfeirnod person.

Ar gyfer tenantiaid Cyngor Caerdydd neu os ydych yn hysbys i'r Adran Dai, anfonwch e-bost [email protected] neu [email protected] gan nodi eich enw a'ch cyfeiriad llawn a byddwn yn anfon eich cyfeirnod person atoch drwy'r post.

Mewngofnodi i Tai Ar-lein