Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Archwiliadau mewnfudo

Os ydych chi'n gwneud cais i fyw yn y DU neu'n bwriadu dod ag aelod o'r teulu i fyw yn y DU, efallai y bydd angen i'r awdurdodau mewnfudo wybod am gyflwr yr eiddo rydych yn bwriadu byw ynddo.

Mae hyn i sicrhau bod yr eiddo'n addas i'r nifer o feddianwyr ac nad oes unrhyw beryglon i iechyd, diogelwch a lles y meddianwyr.

Bydd angen i'r wybodaeth hon ddod gan gorff annibynnol megis syrfëwr cymwys neu Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.

Rydym yn cynnig y gwasanaeth hwn am £100, y mae'n rhaid ei dalu ymlaen llaw.

Sut i wneud cais am archwiliad

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais yn llawn. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib i sicrhau y caiff eich cais ei dderbyn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i chi gael eich ffurflen orffenedig a'ch taliad, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus am archwiliad. Yn ystod yr archwiliad, bydd angen i ni edrych o gwmpas yr eiddo cyfan.

I gefnogi ein harchwiliad bydd angen y wybodaeth ganlynol arnom:

  • enw, rhyw a dyddiad geni'r person sydd am ddod i'r DU,
  • perthynas yr ymgeisydd a'r person sy'n dod i'r DU,
  • copi o Gytundeb Tenantiaeth neu brawf o berchnogaeth o'r eiddo,
  • enwau a dyddiadau geni pawb arall sy'n byw yn yr eiddo,
  • Tystysgrif Diogelwch Nwy foddhaol a diweddar ar gyfer yr eiddo, ac
  • Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol boddhaol a diweddar ar gyfer yr eiddo.

Byddwn yn ceisio archwilio eich eiddo o fewn 10 diwrnod gwaith. Byddwn yn rhoi llythyr i chi i'w roi i'r awdurdodau mewnfudo yn nodi bod y tŷ yn addas ar gyfer y nifer arfaethedig o feddianwyr ac unrhyw beryglon y gallai fod angen sylw arnynt.

Os yw'r eiddo ar gyfer tenantiaid, efallai y caiff hysbysiad ei anfon i'r landlord i roi gwybod am waith angenrheidiol i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles y meddianwyr.

Gwnewch gais am archwiliad tŷ

Cysylltwch â Thîm Tai y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fydd yn trefnu bod ffurflen gais yn cael ei hanfon atoch a nodiadau canllaw ar arolygiad mewnfudo.

Ewch i wefan Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.