Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Benthyciad Gwella Cartrefi

Diben y cynllun, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw cynnig benthyciadau di-log i helpu perchen-feddianwyr cymwys i gadw eu heiddo'n gynnes, sych a diogel.

Caiff y benthyciad ei roi trwy osod tâl gydol oes ar eiddo a gaiff ei adennill pan waredir yr eiddo. Uchafswm benthyciad £25,000. Cyflwynir y benthyciad trwy osod tâl amser bywyd ar eiddo a fydd yn cael ei adfer pan waredir yr eiddo. Uchafswm y benthyciad yw £25,000.

Codir ffi weinyddol o 15% ar bob cais a fydd yn talu costau'r Awdurdod Lleol i weinyddu'r benthyciad. Ychwanegir y ffi hon at y tâl eiddo. Bydd angen i'r holl ymgeiswyr fodloni'r meini prawf cymhwyso.

Meini prawf cymhwyso

Gydag adnoddau yn brin, nid yw'n bosibl cynnig cymorth i bob perchen-feddiannydd yng Nghaerdydd. Yn unol â blaenoriaethau'r Cyngor, bydd cymorth ariannol yn cael ei anelu at Bobl Hŷn. Fodd bynnag, bydd gan rai pobl hŷn sy'n perthyn i'r grŵp hwn ddigon o fodd i dalu am wneud gwaith ar eu heiddo eu hunain, un ai drwy incwm neu gyfalaf yn eu cartrefi. Felly, bydd cymorth ariannol yn cael ei anelu tuag at y rheiny sydd mewn eiddo llai o werth ar incwm isel.

I fod yn gymwys rhaid i'r eiddo:

  • fod wedi'i gofrestru â'r Gofrestrfa Tir yn enw'r ymgeisydd.
  • fod ym Mand A - D y Dreth Gyngor
  • fod o leiaf 10 mlwydd oed
  • Fod mewn cyflwr adfeiliedig

Rhaid i chi:

  • fod dros 65 oed
  • yn derbyn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd
  • yn berchen-feddiannydd yr eiddo
  • wedi bod yn byw yn yr eiddo sy'n unig gartref i chi ers 3 blynedd cyn cyflwyno'r cais
  • fod ag ecwiti yn yr eiddo
  • fod â llai na £16k mewn cynilon
  • Ni fydd y cyfanswm a fenthycir yn fwy na 80% o werth yr eiddo - heb gynnwys benthyciadau sy'n ddyledus
  • Nid fyddwch wedi cael grant atgyweirio yn ystod y 5 mlynedd diwethaf
     

Cysylltwch â'r Tîm Byw'n Annibynnol i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltu â ni

02920 537380