Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Yr ardoll seilwaith cymunedol

Cyflwynwyd yr Ardoll Seilwaith Cymunedol (a elwir 'yr ardoll' neu 'ASC') ym mis Ebrill 2010 ac mae'n galluogi Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr i godi cyllid gan ddatblygwyr sy'n ymgymryd â phrojectau adeiladu newydd yn eu hardal. Mae'r Ardoll yn dâl a godir fesul metr sgwâr datblygiad newydd, a chaiff ei chasglu wrth weithredu'r datblygiad. Gellir defnyddio'r arian i dalu am ystod eang o seilwaith sydd ei angen i gynorthwyo twf. Gall hyn gynnwys pethau megis cynlluniau trafnidiaeth, ysgolion a mannau gwyrdd.

Bydd yr Ardoll yn disodli cyfraniadau Adran 106 ar gyfer llawer o fathau o seilwaith, er y gellir defnyddio cytundebau Adran 106 o hyd ar gyfer mesurau lliniaru ar safleoedd penodol ac ar gyfer darparu tai fforddiadwy.

Yn 2017, cyhoeddodd yr Adran dros Gymunedau a Llywodraeth Leol (AGLlL) adolygiad o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, o'r enw 'Adolygiad ASC: Adroddiad i'r Llywodraeth', sy'n argymell cyfres o newidiadau i'r broses.

Ar y cam hwn, cafodd y gwaith o baratoi Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gyfer Caerdydd ei roi o'r neilltu.

Ers hynny mae'r ASC wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru drwy Ddeddf Cymru 2017. Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar ei ddull o ymdrin â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, bydd y Cyngor wedyn yn ystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen ag ASC ar gyfer Caerdydd.

Bydd y Cyngor yn parhau i ofyn am gyfraniadau gan bob datblygwr drwy Adran 106 nes clywir yn wahanol.

Cysylltu â ni

Os oes unrhyw ymholiadau gennych ynghylch yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a cysylltwch â:

Cysylltu â ni

Ffôn: 029 2087 3483

Ardoll Seilwaith Cymunedol Cynllunio Strategol,
Cyngor Caerdydd
Ystafell 250, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW