Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Deddf Cydraddoldeb 2010 gwybodaeth i yrwyr tacsis

Fel gyrrwr tacsi dylech ddarparu gwasanaeth i bob cwsmer, gan gynnwys y rheini â chadair olwyn, problemau symudedd neu'r rheini y gall fod angen help arnynt.

Dylech helpu unrhyw deithwyr y mae angen help arnynt ac ni allwch wrthod eu gyrru na chodi ffi uwch arnynt.

Daw'r rheoliadau hyn o dan adran 165 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. O dan adran 167 o'r un Ddeddf, rydym yn cadw rhestr o 'gerbydau dynodedig' sef y rhai sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Rydym yn diweddaru'r rhestr hon bob mis.

Os ydych yn gyrru cerbyd dynodedig, bydd y dyletswyddau canlynol yn berthnasol:

  1. cludo teithiwr pan fydd yn ei gadair olwyn
  2. peidio â chodi tâl ychwanegol am wneud hynny
  3. cario'r gadair olwyn os yw'r teithiwr yn dewis eistedd yn sedd y teithiwr
  4. cymryd camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y teithiwr yn cael ei gludo'n ddiogel ac yn rhesymol gysurus
  5. rhoi cymorth symudedd i'r teithiwr fel sy'n rhesymol ofynnol:
  • galluogi'r teithiwr i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd
  • os yw'r teithiwr yn dymuno aros yn y gadair olwyn, galluogi'r teithiwr i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd wrth iddo aros yn y gadair olwyn
  • llwytho bagiau'r teithiwr i mewn ac allan o'r cerbyd
  • os nad yw'r teithiwr am aros yn y gadair olwyn, llwytho'r gadair olwyn i mewn ac allan o'r cerbyd

 

  Gweld rhestr o'r cerbydau dynodedig (PDF, 143 KB)