Mae adrannau 168 i 171 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn amlinellu'r rheolau ar gyfer cario cŵn tywys a chŵn cymorth eraill yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r ddeddf yn nodi bod rhaid i yrwyr cerbydau hacni a hurio preifat:
- gario cŵn cymorth heb unrhyw gost ychwanegol, a
- pheidio â thrin unrhyw un â chi cymorth yn annheg.
Os oes gennych gyflwr meddygol sy'n golygu na allwch gario ci cymorth yn eich cerbyd, gallwch wneud cais am eithriad. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cyflwr gan arbenigwr pan fyddwch yn gwneud cais.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon sticer eithriad atoch. Rhaid i chi ddangos hyn yn glir ar eich ffenestr flaen.
Dysgwch ragor am y mathau o gŵn cymorth ar wefan Transport for London.
