Daethyr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2026.
Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar newidiadau i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o safon uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Hysbysiad statudol
Ar 29 Mai 2026, cytunodd y Cabinet i'r Cyngor gyhoeddi Hysbysiadau Statudol cyfreithiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i'r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae'r hysbysiadau am newidiadau arfaethedig i Ysgol Gynradd Adamsdown, Ysgol Gynradd Pencaerau, Ysgol Gynradd Peter Lea, Ysgol Gynradd Meadowbank, Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn ac Ysgol Uwchradd Woodlands yn fyw o 16 Mehefin 2026 ac yn caniatáu 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at ac yn cynnwys 13 Gorffennaf 2026.
Gweld manylion yr hysbysiadau:
- i Ysgol Gynradd Adamsdown (PDF, 173 KB)
- Ysgol Gynradd Pencaerau (PDF, 172 KB)
- Ysgol Gynradd Peter Lea (PDF, 171 KB)
- Ysgol Gynradd Meadowbank (PDF, 172 KB)
- Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn (PDF, 208 KB)
- Ysgol Uwchradd Woodlands (PDF, 175 KB)
Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.
Gellir anfon gwrthwynebiadau hefyd at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd drwy e-bostio [email protected]
Sylwer bod yn rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o'r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post y sawl sy'n gwrthwynebu.
Adroddiad ymgynghori
Bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Mai 2026.
Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Yn yr adroddiad argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiadau statudol i:
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth, â lle i 10, yn Ysgol Gynradd Adamsdown o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth, â lle i 20, yn Ysgol Gynradd Pencaerau o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth, â lle i 20, yn Ysgol Gynradd Peter Lea o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol. Cynyddu'r nifer dynodedig o leoedd yn Ysgol Arbennig Meadowbank o 98 i 110 o fis Ionawr 2027.
- Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn o 240 i 300 o leoedd o fis Ionawr 2027. Byddai'r ysgol ar draws dau safle gan gynnwys adeiladau presennol Tŷ Gwyn, a'r adeilad gwag yn Ysgol Arbennig Riverbank o fis Ionawr 2027. Byddai'r ysgol estynedig yn trosglwyddo i adeilad newydd ar safle Tŷ Glas yn Llanisien gyda chynnydd pellach mewn capasiti i 320 o leoedd o fis Medi 2030.
- Cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Woodlands o 240 i 300 o leoedd o fis Ionawr 2027. Byddai'r ysgol ar draws dau safle gan gynnwys safle campws y Tyllgoed a safle campws presennol Vincent Road. Byddai capasiti'r ysgol yn cael ei gynyddu ymhellach i 360 o leoedd o fis Medi 2032 ar ôl cwblhau'r adeilad newydd ar safle campws Vincent Road.
Gellir gweld yr adroddiad ddiad ar Modern Gov.
Ymgynghoriad
Ateb y galw am leoedd arbenigol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth, cynigir:
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Anghenion Dysgu Cymhleth â 10 yn Ysgol Gynradd Adamsdown o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Anghenion Dysgu Cymhleth ag 20 lle yn Ysgol Gynradd Pencaerau o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol
- Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Anghenion Dysgu Cymhleth ag 20 lle yn Ysgol Gynradd Peter Lea o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol
- Cynyddu'r nifer dynodedig o leoedd yn Ysgol Arbennig Meadowbank o 98 i 110 o fis Ionawr 2027.
- Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn o 240 o leoedd i 300 o leoedd, gan ddefnyddio'r adeiladau presennol a'r adeilad gwag yn Ysgol Arbennig Riverbank, Vincent Road, Trelái am gyfnod pontio o fis Ionawr 2027. Byddai'r ysgol estynedig yn trosglwyddo i adeilad newydd ar safle Tŷ Glas yn Llanisien gyda chynnydd pellach mewn capasiti i 320 o leoedd o fis Medi 2030.
- Cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Woodlands o 240 i 300 o leoedd o fis Ionawr 2027. Byddai'r ysgol ar draws dau safle gan gynnwys safle campws y Tyllgoed a safle campws presennol Vincent Road. Byddai capasiti'r ysgol yn cael ei gynyddu ymhellach i 360 o leoedd o fis Medi 2032 ar ôl cwblhau'r adeilad newydd ar safle campws Vincent Road.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 9 Chwefror 2026 i 26 Mawrth 2026 ac mae'n gyfle i ddysgu am y newidiadau arfaethedig, i holi cwestiynau ac i wneud sylwadau. Gallwch ddarllen neu lawrlwytho copi o'r dogfennau ymgynghori sy'n manylu ar y newidiad arfaethedig:
- Dogfen ymgynghori Anghenion Dysgu Cymhleth (PDF, 1 MB)
- Dogfen gryno Anghenion Dysgu Cymhleth (PDF, 1 MB)
- Dogfen hawdd ei darllen Anghenion Dysgu Cymhleth (PDF, 281 KB)
- Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned (PDF, 401 KB)
- Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (PDF, 299 KB)
- Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg (PDF, 374 KB)
Dweud eich dweud
Daethyr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2026.
Cysylltu â ni
Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â ni.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2720
Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Neuadd y Sir
CF10 4UW
