Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol

​​​Daethyr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2026​.

​​Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar newidiadau i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o safon uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. ​

Hysbysiad statudol

Ar 29 Mai 2026, cytunodd y Cabinet i'r Cyngor gyhoeddi Hysbysiadau Statudol cyfreithiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i'r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Mae'r hysbysiadau am newidiadau arfaethedig i Ysgol Gynradd Hywel Dda, Ysgol Gynradd Radnor, Ysgol Glan Morfa, Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn fyw o 16 Mehefin 2026 ac yn caniatáu 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at ac yn cynnwys 13 Gorffennaf 2026.  

Gweld manylion yr hysbysiadau:

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW. 

Gellir anfon gwrthwynebiadau hefyd at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd drwy e-bostio [email protected]

Sylwer bod yn rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o'r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post y sawl sy'n gwrthwynebu.

Adroddiad ymgynghori

Bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Mai 2026.

Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.

Yn yr adroddiad argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiadau statudol i:

  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a Cyfathrebu Cymdeithasol, â lle i 10, yn Ysgol Gynradd Hywel Dda o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol. Byddai'r ganolfan yn darparu 10 lle yn 2026 i 2027 gyda chwmpas i ymestyn i 20 lle o 2028 i 2029.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a Cyfathrebu Cymdeithasol, â lle i 30, yn Ysgol Gynradd Radnor o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.   Byddai'r ganolfan yn darparu 10 lle yn 2026 i 2027 gyda chwmpas i ymestyn i 20 lle yn 2027 i 2028 a 30 lle yn 2028 i 2029.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a Cyfathrebu Cymdeithasol, â lle i 10, yn Ysgol Glan Morfa o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a yfathrebu Cymdeithasol, â lle i 42, yn Ysgol Uwchradd Fitzalan o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer dysgwyr ag anghenion Awtistiaeth a Cyfathrebu Cymdeithasol, â lle i 10, yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern o fis Medi 2027 yn yr adeiladau presennol.​

Gellir gweld yr adroddiad ddiad​​ ar Modern Gov.

Ymgynghoriad

Er mwyn ateb y galw am leoedd arbenigol i ddysgwyr ag Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol, cynigir: 

  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Saesneg newydd ag 20 lle yn Ysgol Gynradd Hywel Dda o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol. Byddai'r ganolfan yn darparu 10 lle yn 2026 i 20227 gyda chwmpas i ymestyn i 20 lle yn 2028 i 2029.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Saesneg newydd â 30 lle yn Ysgol Gynradd Radnor o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol. Byddai'r ganolfan yn darparu 10 lle yn 2026 i 2027 gyda chwmpas i ymestyn i 20 lle yn 2027 i 2028 a 30 lle yn 2028 i 2029.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Cymraeg newydd â 10 lle yn Ysgol Glan Morfa o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Saesneg newydd â 42 lle yn Ysgol Uwchradd Fitzalan o fis Ionawr 2027 yn yr adeiladau presennol.
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol Awtistiaeth ac Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol cyfrwng Cymraeg newydd â 10 lle yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern o fis Medi 2027 yn yr adeiladau presennol.  

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 9 Chwefror 2026 i 26 Mawrth 2026 ac mae'n gyfle i ddysgu am y newidiadau arfaethedig, i holi cwestiynau ac i wneud sylwadau.

Gallwch ddarllen neu lawrlwytho copi o'r dogfennau ymgynghori sy'n manylu ar y newidiad arfaethedig: 

​Dweud eich dweud

​​​Daethyr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2026.

Cysylltwch â ni

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â ni.

E-bost: [email protected]

Ffôn: 029 2087 2720​

Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion
Addysg a Dysgu Gydol Oes
Neuadd y Sir
CF10 4UW