Ar 18 Rhagfyr 2025, cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar gynigion i:
- Ymestyn ystod oedran Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof o 4-11 oed i 3-11 oed drwy sefydlu uned feithrin cyfrwng Cymraeg fel rhan o'r ysgol.
Bwriedir i'r newid ddod i rym o fis Medi 2026.
Gweld Adroddiad y Cabinet ar wefan Modern Gov.
Gweld y Llythyr Penderfyniad (PDF, 228 KB)
Hysbysiad statudol
Ystyriwyd adroddiad ar yr ymgynghoriad i sefydlu darpariaeth feithrin yn Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof gan Gabinet y Cyngor ar 18 Medi 2025.
Roedd yr adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Gellir gweld yr adroddiad ar wefan Modern Gov.
Ar ôl ystyried canlyniad yr ymgynghoriad, awdurdododd y Cabinet swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol i ymestyn ystod oedran Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof o 4 i 11 oed, i 3 i 11 oed drwy sefydlu uned feithrin cyfrwng Cymraeg fel rhan o'r ysgol.
Byddai'r newid arfaethedig yn cael ei roi ar waith o fis Medi 2026.
Mae'r hysbysiad yn fyw o 30 Medi 2025 ac mae'n caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i\'r cynigion hyd at a chan gynnwys 27 Hydref 2025.
Gweld yr hysbysiad statudol (PDF, 161 KB).
Dylid anfon gwrthwynebiadau at y:
Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Gellir anfon gwrthwynebiadau hefyd at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd drwy e-bostio [email protected]
Sylwer bod yn rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o'r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post y sawl sy'n gwrthwynebu.
Adroddiad ymgynghori
Bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad i sefydlu uned feithrin Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof o fis Medi 2026 yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 18 Medi 2025.
Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r materion a godwyd, ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Yn yr adroddiad, argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol i ymestyn ystod oedran Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof o 4 i 11 oed i 3 i 11 oed drwy sefydlu uned feithrin fel rhan o'r ysgol o fis Medi 2026.
Gellir gweld yr adroddiad ar Modern Gov.
Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion yn dilyn cyfarfod y Cabinet.
Ymgynghoriad
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Gorffennaf 2025.
Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar gynnig i sefydlu uned feithrin Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof o fis Medi 2026.
Gweld y:
- Ddogfen ymgynghori (PDF, 2 MB)
- Ddogfen gryno (PDF, 964 KB)
- Ddogfen ymgynghori addas i blant (PDF, 1 MB)
- Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb (PDF, 321 KB)
- Asesiad o'r effaith ar y gymuned (PDF, 374 KB)
- Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg (PDF, 363 KB)
مقترحات بإنشاء حضانة في مدرسة يسغول جيمرايج - واي - جوف (PDF, 326 KB)
أكمل استمارة تقرير الاستشارة (Word doc, 37 KB)
Ysgol Gymraeg Coed-Y-Gof - এ নার্সারি বন্দোবস্ত প্রতিষ্ঠার প্রস্তাবসমূহ (PDF, 477 KB)
কনসালটেশন রিপোর্ট ফর্মটি পূরণ করুন (Word doc, 41 KB)
Plan utworzenia klasy przedszkolnej w szkole Ysgol Gymraeg Coed-y-Gof (PDF, 406 KB)
Wypełnij formularz raportu konsultacyjnego (Word doc, 42 KB)
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â ni.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2720
