Gall gymryd hyd at chwe wythnos i ddiweddaru eich cyfrif oherwydd y lefel uchel o waith rydym yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Diolch am eich amynedd.
Er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o’r Dreth Gyngor, mae angen i ni wybod pryd mae eich amgylchiadau'n newid.
Gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn union fel y maen nhw’n ymddangos yn eich bil.
Newid Cyfeiriad yng Nghaerdydd
Ffurflen Newid Cyfeiriad y Dreth Gyngor
Cwblhewch y ffurflen hon os ydych yn symud o un eiddo i eiddo arall yng Nghaerdydd ac yn atebol am y dreth gyngor yn y ddau gyfeiriad.
Symud allan o Gaerdydd
Ffurflen Treth Gyngor Symud Allan o Gaerdydd
Cwblhewch y ffurflen hon os ydych yn symud allan o Gaerdydd neu yn symud i eiddo lle na fyddwch yn atebol am y dreth gyngor mwyach.
Symud i Gaerdydd
Ffurflen Treth Gyngor Symud i gyfeiriad yng Nghaerdydd
Cwblhewch y ffurflen hon os ydydch yn symud i Gaerdydd neu ar fin dod yn atebol am dreth y cyngor mewn cyfeiriad yng Nghaerdydd