Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth i'w wneud os ydych yn cael gwŷs neu orchymyn dyled ar gyfer eich Treth Gyngor

​​​​​​​​​​​​​Os ydych wedi derbyn gwys, mae angen taliad llawn i glirio'r balans cyn y dyddiad llys, gan gynnwys unrhyw gostau ychwanegol.

Os na fyddwch yn gwneud taliad llawn, byddwn yn gofyn i Lys Ynadon Caerdydd gyhoeddi Gorchymyn Dyled am y diffyg taliad.

Os caiff y Gorchymyn Dyled ei ddyfarnu, gallwn gymryd camau pellach i adennill balansau sy'n weddill.

Os na allwch dalu'r balans yn llawn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl i drefnu taliad.


Gwblhau un ffurflen trefniant talu ar-lein










Mae ein gwybodaeth gyswllt ar eich gwŷs neu eich Gorchymyn Dyled​, neu gallwch ymweld â​'ch Hyb lleol​​​. 

Os na fyddwch yn gwneud taliad llawn neu'n trefnu ad-daliadau gyda ni, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad Gorfodi ac yn cymryd camau adfer. 

Bydd angen i chi dalu'r balans yn llawn ac unrhyw ffioedd ychwanegol o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad ar yr hysbysiad. 

Byddwn yn dal i ystyried trefniant talu ar hyn o bryd.  
​​​
Os nad ydych wedi cysylltu â ni o hyd, byddwn yn parhau i weithredu adfer ar gostau pellach posibl. 

Ffioedd gorfodi
Ffioedd
Rheswm dros ychwanegu ffioedd
£75
Codir y ffi hon arnoch os na fyddwch yn talu. Mae'r ffi yn angenrheidiol er mwyn i'ch dyled gael ei throsglwyddo i Asiantau Gorfodi.
​£235
​Codir tâl arnoch os bydd yn rhaid i Asiantau Gorfodi ymweld â chi yn eich eiddo. Os yw'r ddyled yn fwy na £1,500.00, codir 7.5% arall arnoch.
​​£110
Bydd yn rhaid i chi dalu'r ffi hon os bydd yn rhaid i Asiantau Gorfodi dynnu nwyddau o'ch eiddo a'u gwerthu mewn arwerthiant. Os yw'r ddyled yn fwy na £1,500.00, codir 7.5% arall arnoch.​​​

Camau adfer pellach​

Mae camau adfer pellach yn cynnwys:

  • Gorchymyn Atafaelu Enillion Dyma pryd y byddwn yn cymryd taliadau o'ch cyflog, drwy eich cyflogwr.
  • Atodi Budd-dal  Dyma pryd rydym yn cymryd taliadau o'ch budd-daliadau, drwy'r AGP.
  • Defnyddio Asiantau Gorfodi. Dyma pryd rydym yn gweithio gydag asiantau gorfodi i adfer nwyddau i werth y ddyled.
  • Gorchymyn Arwystlo Os ydych chi'n berchennog tŷ, gallwn wneud cais am Orchymyn Arwystlo gan y Llys Sirol sy'n golygu na allwch werthu eich eiddo nes bod y Dreth Gyngor wedi'i thalu. Gall hyn hefyd arwain at werthu'r eiddo dan orfod.
  • Cais i'r Uchel Lys i ddatgan eich bod yn fethdalwr.​

Gallwch osgoi camau adennill trwy gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.



Os yw eich dyled yn cael ei thrin gan un o'n hasiantaethau cysylltiedig, bydd angen i chi gysylltu â nhw i drafod ad-dalu. ​

Bristow and Sutor Enforcement Agency

​Bartleet Road, Washford, Redditch, Worcs, B98 0FL

Ffôn: 033 0390 2010

Asiantaeth Gorfodi Sifil Excel 

Marine House, 2 Marine Road, Bae Colwyn, Conwy, L29 8PH
 
Ffôn: 0330 363 9988




Marston Holdings  ​​​

Marston, PO BOX 12019, Epping, CM16 9EB

Ffôn​​: 0333 320 1822
 


Os yw eich dyled yn cael ei thrin gan Asiant Gorfodi Cyngor Caerdydd, cysylltwch â ni.

​Bydd manylion cyswllt yr asiant ar yr Hysbysiad Presenoldeb a adewir yn eich eiddo.

Cysylltu â ni

Ffôn​: 029 2087 1280



© 2022 Cyngor Caerdydd