Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Methu talu eich Treth Gyngor

​​​​​
Peidiwch ag anwybyddu unrhyw hysbysiad a gewch am dalu eich Treth Gyngor. Cysylltwch â ni os ydych yn cael ​​
anawsterau wrth dalu eich bil.​

Os byddwch yn talu eich rhandaliadau yn hwyrach na'r dyddiadau a ddangosir ar eich bil Treth Gyngor, efallai y byddwn yn anfon hysbysiad atgoffa atoch i'w dalu'n hwyr.

Rhaid i chi dalu'r swm a ddangosir ar y nodyn atgoffa erbyn y dyddiad ar y llythyr amgaeedig.

Bydd angen i chi dalu eich holl randaliadau ar amser yn y dyfodol, neu efallai y byddwch yn colli eich hawl i dalu mewn rhandaliadau.

Os nad ydych yn credu y byddwch yn gallu talu, cysylltwch â ni i gael cyngor.

Os na fyddwch yn talu, byddwn yn trosglwyddo cwyn i Lys Ynadon Caerdydd. Anfonir Gwŷs Llys atoch am beidio â thalu’r Dreth Gyngor, byddwch hefyd yn gorfod talu costau ychwanegol ar gyfer y cam gweithredu hwn.

Cael Gwŷs


Pan gewch wŷs, byddwn yn gwneud cais i'r Ynadon am Orchymyn Dyled am swm llawn y Dreth Gyngor sy'n ddyledus gennych.

Gallwch atal y weithred hon trwy dalu'r swm a ddangosir ar eich gwŷs yn llawn, gan gynnwys y costau, cyn dyddiad y llys.
 
Os na allwch dalu'r swm llawn cyn dyddiad y llys, dysgwch beth i’w wneud os ydych wedi derbyn gwŷs​

Ni fydd hyn yn atal y weithred llys a chodir costau llys arnoch o hyd.

Ymdrinnir ag achos llys yn y Llys Ynadon, felly ni fydd Dyfarniad Llys Sirol yn eich erbyn ac ni fydd eich statws credyd yn newid o ganlyniad i'r weithred hon.


Mynd i'r Llys


Eich hawl chi yw ymddangos yn y llys os ydych wedi cael eich galw, ac os ydych yn dymuno bod yn bresennol dylech gysylltu â ni i drefnu apwyntiad​   

Os ydych wedi cysylltu â ni i drafod eich cyfrif, efallai na fydd rhaid i chi fynd i’r llys.

Os byddwch yn dewis mynd i wrandawiad y llys, bydd yr Ynadon yn gofyn a oes gennych amddiffyniad dilys a fydd yn atal y Gorchymyn Dyled rhag cael ei roi. Nid yw'r canlynol yn amddiffyniad dilys:
 
  • allwch chi ddim fforddio talu,
  • rydych wedi gwneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor, Disgownt, Eithriad neu ostyngiad arall,
  • mae gennych apêl heb ei chynnal eto gyda’r Tribiwnlys Prisio,
  • nid ydych wedi derbyn yr hysbysiadau a anfonwyd atoch. Nid oes rhaid i'r Cyngor brofi eich bod wedi'u derbyn.
 
Os na fyddwch yn bresennol, bydd y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen yn eich absenoldeb a byddwn yn parhau i wneud cais am y Gorchymyn Dyled.

Gorchymyn Dyled


Mae'r Ynadon yn rhoi Gorchymyn Dyled i'r Cyngor, sy'n rhoi pwerau cyfreithiol i ni adennill y Dreth Gyngor sy'n weddill.

Mae Gorchymyn Dyled yn ein galluogi i gymryd unrhyw un o'r camau canlynol os na fyddwch yn talu eich Treth Gyngor:
  • cael gwybodaeth am eich cyflogaeth neu eich budd-daliadau,
  • gorchymyn i'ch cyflogwr gymryd yr arian yn uniongyrchol o'ch cyflog,
  • gwneud didyniadau o'ch Cymhorthdal Incwm neu’ch Lwfans Ceisio Gwaith,
  • defnyddio Asiantau Gorfodi i adfer nwyddau o’ch cartref,​
  • gwneud cais am Orchymyn Arwystlo ar eich tŷ a fydd yn golygu na allwch ei werthu nes bod y Dreth Gyngor wedi'i thalu,
  • gwneud cais i'r Uchel Lys i ddatgan eich bod yn fethdalwr​.


Peidiwch ag anwybyddu eich bil Treth Gyngor. Os na allwch dalu, cysylltwch â ni​ fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael y cyngor cywir.​




​​


© 2022 Cyngor Caerdydd