Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Profiad gwaith

​​​​​​​​​​​​Mae'r cynllun Profiad Gwaith yn cynnig lleoliadau di-dâl i ddinasyddion er mwyn iddynt gael profiad gwaith byd go iawn yn yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru.
 
Nid oes angen i chi fyw yng Nghaerdydd ond mae'n rhaid i chi fod dros 14 oed i wneud cais am leoliad gyda ni.

Ein nod yw creu cyfleoedd teg, agored a chynhwysol i bawb gan gynnwys myfyrwyr coleg a phrifysgol a phobl sydd am newid eu gyrfa waeth beth fo'u hoedran, eu rhyw, eu rhywedd, eu crefydd, eu hanabledd, neu unrhyw amgylchiadau personol eraill.


Mae’r rhain yn lleoliadau profiad gwaith di-dâl. Bydd angen i chi dalu eich treuliau eich hun.

Mae rhai lleoliadau yn cynnwys gweithio o bell, ac felly bydd angen dyfais sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd arnoch.

Rydym yn gwneud ein gorau i geisio c​ynnig lleoliad sy'n bodloni eich anghenion a'ch dyheadau personol.

Ar eich lleoliad gyda ni, gallwch ddisgwyl datblygu:

  • sgiliau, gwybodaeth a hyder, a
  • phrofiad yn eich maes diddordeb.




Gall y lleoliad hefyd gefnogi meysydd eraill o'ch bywyd, fel eich astudiaethau a'ch nodau gyrfa.

Byddwch hefyd yn cael gwell dealltwriaeth o'r ddinas rydych yn byw ynddi, a sut mae eich Cyngor a'i wasanaethau'n gweithio.


Eich lleoliad profiad gwaith gyda ni

Cyngor Caerdydd yw’r Awdurdod Lleol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i ddinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. 

Dyma enghreifftiau o leoliadau y gallwch eu gwneud gyda ni: 

  • Sesiwn 'cwrdd â'r arbenigwr' gyda swyddog i gael sgwrs un i un am rôl rydych yn dyheu amdani. 
  • Cysgodi gwaith am hyd at 3 diwrnod o dasgau a gweithgareddau hyfforddi, neu gyfres o gyfarfodydd un i un gydag aelodau o'r tîm.
  • Lleoliad profiad gwaith byrdymor gan gyflawni gweithgareddau a thasgau am rhwng 4 a 10 diwrnod.
  • Lleoliad profiad gwaith estynedig gan weithio ar weithgaredd, sgil neu brosiect penodol sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau neu eich nodau gyrfa, fel arfer nid yw hyn yn fwy na 30 diwrnod.









Mae dros 150 o rolau ar draws ein timau i ddarparu tua 700 o wasanaethau yng Nghaerdydd. Dyma rai o’r meysydd y gallwch ofyn am brofiad ynddynt: 

  • Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion
  • Adeiladu, Prosiectau Mawr, Tai a Chynllunio  
  • Hybiau Cymunedol, Cyngor Ariannol a Budd-daliadau, Timau i Mewn i Waith
  • Cymorth Busnes a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Gwasanaethau Digidol a Thechnoleg Gwybodaeth, Caledwedd a Pheirianneg Meddalwedd
  • Dadansoddeg Data
  • Yr Amgylchedd, Garddwriaeth, Parciau a Chadwraeth Bywyd Gwyllt
  • Addysg, Ysgolion a Chymorth Blynyddoedd Cynnar
  • Gwasanaethau Anabledd a Gwasanaethau Byw'n Annibynnol
  • Datblygu Economaidd a Mewnfuddsoddiad
  • Peirianneg Drydanol a Mecanyddol
  • Digwyddiadau, Diwylliant, Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
  • Y Gyfraith, Caffael ac Adnoddau Dynol
  • Yswiriant, Risg, Cyllid a Chyfrifyddiaeth
  • Gwasanaethau Digartrefedd, Atgyweiriadau a Thai
  • Canolfan Marchogaeth a Chartref Cŵn Caerdydd
  • Traffig a Chynllunio Trafnidiaeth, a Rheoli Gwastraff  
  • Gwasanaethau Cyfieithu Cymraeg​

Gwneud cais am brofiad gwaith​

Er ein bod yn gwneud ein gorau, yn anffodus nid yw bob amser yn bosibl dod o hyd i leoliad i bawb oherwydd galw mawr.



Gwneud cais am brofiad gwaith​

Ar ôl i ni edrych ar eich cais, byddwn yn ceisio dod o hyd i leoliad i chi cyn cysylltu â chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch GwasanaethauPoblAD@caerdydd.gov.uk.​

Mae eich holl wybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Gallwch ddysgu mwy drwy edrych ar ein Hysbysiad Preifatrwydd, ein tudalen ar Ddiogelu Data a'n Canllaw i Bobl Ifanc ar GDPR​.

Gallwch hefyd ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd GDPR ​neu ein llyfryn hawdd ei ddarllen sy'n dda i blant​.

​ ​

Partneru â sefydliadau addysgol

Yn rhan o Addewid Caerdydd​ a Caerdydd 2030, rydym yn gweithio i feithrin perthynas gryfach rhwng addysg a chyflogaeth.


Ein nod yw cysylltu â sefydliadau addysgol a sefydliadau'r trydydd sector​ i roi profiad gwaith gwerthfawr i bobl if​​anc sy'n eu helpu i gael y dechrau gorau mewn bywyd.


Dysgwch fwy am Gaerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant, y CCUHP a'r saith nod craidd ar gyfer plant a phobl ifanc​​.


Cysylltwch â ni os ydych am i ni ddod i siarad â'ch myfyrwyr, eich defnyddwyr gwasanaeth neu eich cwsmeriaid am brentisiaethau llywodraeth leol, hyfforddiant a gyrfaoedd graddedig. 



Cysylltu â ni

I gael mwy o wybodaeth a chefnogaeth, ffoniwch Adnoddau Dynol ar 029 2087 2222 neu e-bostiwch GwasanaethauPoblAD@caerdydd.gov.uk.

​​​​​​


© 2022 Cyngor Caerdydd