Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Canllaw diogelu data i bobl ifanc

Os ydych yn 13 oed neu’n hŷn, yna o 25 Mai 2018 mae’ch pŵer yn newid sut mae’ch gwybodaeth bersonol yn cael ei drin  Mae 6 rheol allweddol mae’n rhaid i’r​ deiliad (h.y. cwmnïau, sefydliadau a’ch ysgol) eu dilyn cyn iddynt allu defnyddio eich manylion. 

Gwyliwch – rap y GDPR yma!  ​

 
 

 

Rheol 1 – Dylech chi fod yn glir pan rydych wedi cytuno i roi eich manylion


Wrth roi manylion, dylid ei gwneud yn glir eich bod yn cytuno i’w rhoi nhw. Ni ddylai ffurflenni gynnwys blychau dewis ymeithrio mwyach lle mae angen i chi ddad-dicio. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o reolaeth gennych o ran at ba ddiben y caiff eich manylion eu defnyddio.  


​Rheol 2 – Dylid rhoi gwybod i chi pam mae eich manylion yn cael eu casglu


Dylid nodi’n glir at ba ddiben y cesglir eich manylion cyn i chi gytuno i’w rhoi. Mae hyn yn cynnwys pam mae angen eich manylion a lle byddan nhw’n cael eu defnyddio.


Rheol 3 – Dylid defnyddio eich manylion am y rheswm cawsant eu cymryd yn unig


Dim ond at y diben penodol rydych wedi cytuno iddo y dylid defnyddio eich manylion personol. Mae angen i chi roi caniatâd ychwanegol ar gyfer unrhyw ddefnydd arall. 


Rheol 4 – Rhaid diweddaru’ch manylion yn gyson a’u cadw’n gywir

Rhaid i fanylion rydych wedi’u rhoi gael eu diweddaru a’u cadw’n gywir trwy’r amser. Mae gennych chi’r hawl i ofyn i fanylion anghywir neu anghyflawn gael eu dileu neu eu cywiro o fewn 30 diwrnod.


Rheol 5 – Ni ddylid cadw eich manylion yn hirach na’r angen


Pan nad oes angen y manylion rydych wedi’u rhoi mwyach, mae’n rhaid i’r deiliad eu dileu. Dylid nodi’r cyfnod hwn yn glir gan y deiliaid a dylid dileu’r manylion yn awtomataidd pan fo’r amser hwnnw wedi dod i ben.


Rheol 6 – Rhaid i’ch manylion gael eu trin yn ddiogel, gan gynnwys diogelu rhag prosesu anghyfreithlon neu golled, difetha neu ddifrod damweiniol


Dylid prosesu eich manylion bob amser gyda phwyslais mawr ar eu diogelu. Dylai’r deiliad wneud pob ymdrech i sicrhau nad yw’ch manylion yn cael eu colli, eu dwyn, eu defnyddio gan ffynhonnell arall neu eu dileu ar ddamwain.


Os nad yw’r deiliad yn dilyn POB UN o’r chwe rheol hyn wrth brosesu eich manylion, bydd goblygiadau gan cynnwys dirwyon


Os nad ydych yn sicr am unrhyw beth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i’ch rhiant neu’ch gwarcheidwad, neu athro cyn i chi roi eich gwybodaeth bersonol. 



© 2022 Cyngor Caerdydd