Fe wnaethom dreialu casgliadau ailgylchu ar wahân mewn 10,000 o gartrefi ledled Caerdydd.
Yn ystod y treial, adolygwyd:
- ein cerbydau casglu,
- y sachau a'r cadis a ddarperir,
- faint o gartrefi oedd yn defnyddio'r gwasanaeth,
- ansawdd y deunyddiau sy'n cael eu casglu, ac
- adborth gan breswylwyr.
Yr hyn y gwnaethom ei ddysgu
Roedd ansawdd yr ailgylchu wedi gwella (gostyngodd llygru o 30% i 7%).Dylai sachau llai fod ar gael.Roedd preswylwyr eisiau gallu ailgylchu cartonau (Tetra Pak).Nid oes angen casgliadau gwydr bob wythnos.Roedd ceisiadau am sachau a chadis ychwanegol yn isel.Cymerodd 90% o'r cartrefi ran yn y gwasanaeth newydd.Nid oedd y cerbydau casglu a dreialwyd yn addas.Yr hyn a wnaethom i wella'r gwasanaeth
Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, gwnaethom welliannau i'r gwasanaeth cyn ei gyflwyno i rannau eraill o'r ddinas.Byddwn yn gwneud sachau 45L llai ar gael i chi eu casglu.Byddwn yn gwneud cadis gwydr glas ychydig yn llai a byddwn yn eu casglu bob pythefnos.Gallwch roi cartonau (Tetra Pak) yn eich sachau coch bob wythnos.Bydd gan ein cerbydau casglu adrannau ar wahân ar gyfer pob math o ailgylchu. Byddwn yn casglu gwydr ar wahân.Darllenwch ein
strategaeth ailgylchu.