Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Parcio mewn parth rheoli parcio

​​Ardal lle mae'r holl barcio ar y stryd yn cael ei reoli yn ystod amseroedd penodol yw Parth Rheoli Parcio (PRhP). 

Pan fyddwch mewn parth, rhaid i chi barcio mewn mannau dynodedig. 

​Dysgu lle mae'r parthau rheoli parcio.

Rydym yn cyflwyno PRhP i ddelio â phroblemau parcio a gwneud ein hamgylchedd yn fwy diogel trwy: 

  • wneud cyfyngiadau'n syml,
  • cadw lle parcio i breswylwyr ac ymwelwyr,  
  • stopio cymudwyr rhag parcio, 
  • annog cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, 
  • gwella diogelwch y priffyrdd, a
  • gwella amodau parcio i'r gymuned.
     




Byddwch yn gwybod eich bod yn mynd i mewn i PRhP yn ôl yr arwyddion mawr ar y stryd. Bydd yr arwyddion yn dangos yr amseroedd pan fydd cyfyngiadau llinell felen sengl a chyfyngiadau eraill yn weithredol. 

Mae'r rhan fwyaf o'n PRhP yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos ond gall cyfyngiadau newid yn dibynnu ar yr ardal. 

Rhaid i chi wirio'r arwyddion.


Mae cyfyngiadau llinellau melyn dwbl, troedffyrdd isel a chyrbau isel yn berthnasol 24 awr y dydd. ​

Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer: 

  • preswylwyr a'u hymwelwyr,
  • busnesau,
  • staff ysgol hanfodol,
  • contractwyr,  
  • gofalwyr, ac 
  • adeiladau crefyddol a chymunedol. 


Mae'r mathau o drwyddedau rydym yn eu rhoi yn dibynnu ar y parth rydych  ynddo. Dysgu mwy am PRhP yng Nghaerdydd.  


Eiddo nad ydynt yn gymwys i gael trwydded



Ni all pob eiddo wneud cais am drwyddedau. Mae hyn yn ein helpu i reoli parcio ar y stryd, lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, a lleihau effaith cartrefi a datblygiadau newydd. 

Mae'r eiddo nad ydynt yn gymwys yn cynnwys: 

  • eiddo a ddatblygwyd ar ôl 1 Medi 2011
  • eiddo gyda meysydd parcio oddi ar y stryd
  • eiddo ar ffordd breifat 
  • eiddo sydd wedi'u hadeiladu neu eu haddasu heb ganiatâd cynllunio 
  • llety myfyrwyr
  • datblygiadau dim ceir​

Cyn llofnodi cytundeb tenantiaeth, prynu eiddo, neu sefydlu busnes, rhaid i chi wirio a yw'r eiddo'n gymwys i gael trwyddedau.


Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth anghywir a roddwyd i chi gan landlord, asiant gosod eiddo neu asiant eiddo.​​
Dysgwch sut i barcio'n gywir mewn PRhP.

Parcio gyda thrwydded





Gallwch ddefnyddio trwydded ddilys i barcio mewn mannau ac ardaloedd i ddeiliaid trwydded yn unig. 

Mae angen trwydded arnoch i barcio mewn ardal parcio â thrwydded, er nad oes mannau parcio wedi eu paentio ar y ffordd.
 
Mewn rhai PRhP efallai y gallwch barcio gyda'ch trwydded mewn mannau aros cyfyngedig neu fannau talu ac aros. Mannau defnydd a rennir yw’r rhain.
 
Efallai y bydd rhai mannau trwydded o hyd lle mai dim ond defnyddwyr penodol a gaiff barcio ynddynt, fel meddygon. Os oes gennych fath gwahanol o drwydded, ni allwch barcio yn y mannau hyn. 

Rhaid i chi wirio'r arwyddion pryd bynnag y byddwch yn parcio.


Parcio heb drwydded



Os nad oes trwydded gennych, gallwch barcio yn y mannau canlynol:
 
  • mannau talu ac aros, a 
  • mannau aros cyfyngedig.


Os ydych am barcio mewn man talu ac aros, rhaid i chi brynu tocyn. 

Gallwch barcio mewn man aros cyfyngedig heb drwydded a heb dalu, ond ni ddylech aros yn hirach na'r hyn a ganiateir. Rhaid i chi wirio'r arwyddion i weld am ba hyd y gallwch barcio. 


Parcio gyda bathodyn glas




Os oes bathodyn glas gennych, gallwch barcio mewn man neu ardal i ddeiliaid trwydded preswylwyr am hyd at 3 awr. Rhaid i chi arddangos eich bathodyn a'ch cloc parcio yn glir. 

Gallwch barcio mewn mannau talu ac aros ac aros cyfyngedig am ddim a heb derfynau amser. Rhaid i chi arddangos eich bathodyn yn glir. 



​​​​​


© 2022 Cyngor Caerdydd