Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Anabledd dysgu

Os oes gennych anabledd dysgu efallai y byddwch yn ei chael yn anodd:

  • deall gwybodaeth newydd neu gymhleth,
  • dysgu sgiliau newydd, neu
  • ymdopi ar eich pen eich hun.​

Yr hyn i’w wneud os oes angen help arnoch


 

Os oes gennych chi (neu rywun rydych chi’n ei nabod) anabledd dysgu a bod angen help arnoch, gallwn drefnu i weithiwr cymdeithasol gynnal asesiad i weld a allwn helpu mewn unrhyw ffordd.


 

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gael help.


 

Gwneud cais am asesiad.
Unwaith i chi wneud cais am asesiad bydd gweithiwr cymdeithasol yn cysylltu â chi i gael gwybodaeth amdanoch chi a phennu pa wasanaethau y gallem eu cynnig i chi.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?


 

Os gallwn gynnig gwasanaeth i chi byddwn yn siarad â chi a’ch gofalwr am eich anghenion ac yn ceisio dod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch neu roi arian i chi taliadau uniongyrchol i dalu am y cymorth hwn.

 

Os na allwn gynnig gwasanaeth i chi byddwn yn ceisio rhoi cymorth i chi ddod o hyd i bobl eraill a allai eich helpu chi, fel gwasanaethau a sefydliadau iechyd.


 

Dogfennau defnyddiol:


 

 

Gwasanaethau anabledd dysgu (740kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni


 

Gwneud cais am asesiad

​​

Cysylltu â ni

029 2053 6111

​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd