Mae'r Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi mwy o gyfle i chi ddweud eich dweud ynghylch y gofal a'r cymorth rydych yn eu derbyn.
Mae'r ddeddf yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn grymmuso pobl drwy roi gwybodaeth, cyngor a chymorth iddynt.
Pwy a gaiff ei effeithio?
Bydd y ddeddf yn effeithio ar:
Prif nodau’r Ddeddf
Gyda mwy o bobl angen gofal a chymorth yng Nghymru, mae angen model gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar y wlad. Bydd hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau’r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth i roi gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau i bobl mewn angen.
Bydd rhagor o wasanaethau ar gael i atal problemau rhag gwaethygu, felly mae’r cymorth cywir yno i chi pan fydd ei angen arnoch.
Bydd y ddeddf yn:
Gwneud bywyd yn well i bobl a’u gofalwyr
Gwneud cyfraith gofal cymdeithasol yn haws ei defnyddio
Rhoi llais cryfach a mwy o reolaeth i bobl
Sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen arnynt i fyw bywyd da
Creu darlun cyson o’r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
Sicrhau bod gan gymunedau gyfle i gynnig eu gwybodaeth a’u profiad
Bydd y ddeddf hefyd yn cyflwyno pwerau cryfach i gadw plant a phobl ifanc agored i niwed yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeuluso.
Bydd proses asesu newydd o ran gofal a chymorth yn seiliedig ar beth sy’n bwysig i unigolion. Bydd yn ystyried cryfderau personol, y cymorth sydd ar gael gan aelodau’r teulu, ffrindiau a phobl eraill yn y gymuned.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth CymruDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.