Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ar Fudd-dal Tai, gallwch:
- ofyn am ragor o wybodaeth am y penderfyniad
- apelio yn erbyn y penderfyniad
Mae rheolau gwahanol o ran penderfyniadau ar Fudd-dal Tai a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Os ydych yn apelio yn erbyn y ddau benderfyniad, gweler y canlynol hefyd sut i apelio yn erbyn penderfyniad ar Ostyngiad y Dreth Gyngor.
Gofyn am ragor o wybodaeth am y penderfyniad
Pan wnawn benderfyniad ar eich Budd-dal Tai, byddwn yn anfon llythyr atoch. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth ynghylch y penderfyniad, dylech ofyn am ddatganiad rhesymau. Os gofynnwch am hyn o fewn mis i’r penderfyniad cewch amser ychwanegol os penderfynwch apelio yn erbyn y penderfyniad.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad gallwch apelio i’r Adran Budd-daliadau yn y lle cyntaf neu gallwch apelio’n uniongyrchol i Dribiwnlys annibynnol.
Dylech apelio o fewn mis i’r penderfyniad. Os ydych yn cyflwyno apêl yn hwyr, bydd angen i chi ofyn am estyniad amser ac egluro pam fod eich apêl yn hwyr. Mae terfyn amser eithaf o 13 mis ar apeliadau.
Pwy all apelio?
Gall y bobl ganlynol apelio:
Sut i apelio
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad bydd angen i chi apelio’n ysgrifenedig drwy:
Gallwch alw heibio yn un o’n Hybiau am gymorth gyda’r apêl.
Pan gawn fanylion eich apêl byddwn yn ailystyried y penderfyniad ac yn rhoi’r holl wybodaeth i chi. Byddwn yn newid y penderfyniad os oedd yn anghywir ac yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu o ganlyniad eich apêl.
Apelio i Dribiwnlys Annibynnol
Os byddwch yn dal yn anfodlon ar y penderfyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Annibynnol. Rhaid i chi gyflwyno apêl ysgrifenedig. Ni allwch apelio i Dribiwnlys dros y ffôn neu drwy e-bost.
Mae tribiwnlysoedd gwahanol yn gwrando ar apeliadau Budd-dal Tai ac apeliadau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Os byddwch yn apelio yn erbyn y ddau benderfyniad, bydd dau wrandawiad yn cael eu cynnal ar wahân.
Apelio yn erbyn penderfyniad ar Fudd-dal Tai
Os ydych chi am apelio i’r Gwasanaeth Tribiwnlys, rhaid i chi anfon eich apêl i’r adran Budd-daliadau. Rhaid i’ch apêl:
fod yn ysgrifenedig ac wedi ei lofnodi – ni dderbynnir galwadau ffôn na negeseuon e-bost,
egluro pa benderfyniad rydych chi am apelio yn ei erbyn,
nodi pam eich bod yn anghytuno.
Rhaid i ni gael eich llythyr apelio o fewn mis i’r dyddiad a ddangosir ar lythyr y penderfyniad y gwnaethom ei anfon atoch.
Os gwnewch apêl yn hwyr, bydd angen i chi ofyn am estyniad amser ac esbonio pam fod eich apêl yn hwyr. Mae terfyn amser eithaf o 13 mis ar apeliadau.
Gwybodaeth am y Gwasanaeth Tribiwnlys