Nod diwrnod Shwmae yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu rai sydd wedi colli hyder yn defnyddio’u Cymraeg.
Mae diwrnod Shwmae / Su'Mae yn ddigwyddiad blynyddol i ddathlu'r Gymraeg. Bydd stondin arddangos yn nerbynfa Neuadd y Sir, ac mae nifer o ddigwyddiadau ar draws gwasanaethau'r Cyngor i ddathlu'r diwrnod.
Gallwch gefnogi diwrnod Shwmae / Su’mae mewn amryw o ffyrdd ac annog eraill i gymryd rhan hefyd.
Os ydych chi’n defnyddio Twitter neu Facebook gallwch ddangos sut fyddwch yn nodi diwrnod Shwmae / Su’mae gan rannu lluniau, syniadau a defnyddio’r hashnodau #ShwmaeSumae.