Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Caerdydd Ddwyieithog

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Cylch gwaith ‘Caerdydd Ddwyieithog’ yw cymryd rôl flaenllaw wrth ddatblygu Caerdydd gwbl ddwyieithog lle gall dinasyddion a staff Cyngor Dinas Caerdydd gael gafael ar wasanaethau a chymorth yn y ddwy iaith yn gyfartal drwy wella gwaith partneriaeth.
 
Mae tîm Caerdydd Ddwyieithog yn cynorthwyo’r cyngor i gydymffurfio â’i ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, ac yn cynnwys gwasanaeth cyfieithu llawn. Fel rhan o ddull ‘cydweithredol y cyngor', bydd Caerdydd Ddwyieithog yn ymrwymo i rôl gynghorol ar gyfer sefydliadau eraill, tra'n parhau i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth bellach o’r iaith Gymraeg ar draws y ddinas drwy drefniadau cydweithio gwell sydd, yn eu tro, yn rhoi llai o bwysau ar gostau.
 
Mae’r dull arloesol newydd hwn yn ymwneud â chwalu rhwystrau rhwng yr iaith Gymraeg a Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol ac ymfalchïo yn y ddwy iaith swyddogol yma yng Nghaerdydd er mwyn sicrhau bod ein gweledigaeth o Gaerdydd gynyddol ddwyieithog yn cael ei gwireddu.

Strategaeth Sgiliau Iath Gymraeg 2021



 
Dyma Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg Cyngor Caerdydd.

Mae mynediad i wasanaethau Cymraeg sydd o safon gyfatebol â’r rheini sydd â ddarperir trwy’r Saesneg wedi ei sefydlu fel hawl cyfreithiol i’r cyhoedd yng Nghymru gan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r Safonau Iaith Gymraeg.

Mae’r Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg yn cefnogi gweithrediad o’r Safonau hynny sydd yn ymwneud â Hyfforddiant a Cynllunio Gweithle (Safonau 127-135), Recriwtio ac Apwyntiadau (Safonau 136-140) a Hyrwyddo yr Iaith Gymraeg (Safonau 151-154).

Pwrpas y Strategaeth yw galluogi’r Cyngor i:

  • adeiladu ar lwyddiant y strategaeth Caerdydd Ddwyieithog
  • Cynnal trosolwg o sgiliau Cymraeg staff a gallu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon uchel
  • adnabod ag ymdrin ag angen, a
  • cydlynu ei weithgarwch hyfforddiant a recriwtio i sicrhau mynediad cyfartal i wasanaethau ar ran bobl Caerdydd yn y Gymraeg a’r Saesneg



 
Strategaeth Sgiliau Iath Gymraeg 2021​ - Drafft (298kb PDF)

Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog​​

Ein gweledigaeth yw datblygu Caerdydd gwbl ddwyieithog. Caerdydd lle gall ein dinasyddion fyw, gweithio a chwarae yn ogystal â manteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu Saesneg yn yr un modd. Prifddinas lle mae dwyieithrwydd yn cael ei hyrwyddo fel rhywbeth cwbl naturiol, a lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei diogelu a’i meithrin i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau a'i defnyddio.
 
Yn gyson â gofynion safonau yr iaith Gymraeg mae Cyngor Caerdydd yn gweithredu strategaeth pum mlynedd i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Cyhoeddwyd y Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog gyntaf yn 2017, gan redeg nes 2022. Dyma’r diwygiad cyntaf o Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog, ac mae’n weithredol o 2022 i 2027. Mae’r strategaeth yn cynnwys targed i gynyddu nifer a chanran y siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yng Nghaerdydd i sicrhau fod Caerdydd chwarae ei rhan yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
 
Mae hon yn strategaeth i’r ddinas gyfan, nid i un sefydliad yn unig. Bydd cyflawni’r strategaeth felly yn dibynnu ar weithio mewn partneriaeth: rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat ac addysg ac, yn bwysicach na dim, gyda phobl Caerdydd.​

​Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​




 

​​Safonau'r Gymraeg 

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn disodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, yng Nghymru mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg ac felly ni all yr iaith Gymraeg cael ei thrin yn llai ffafriol. Nid oes rhaid i gyrff cyhoeddus mwyach ddatblygu a gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg, ond yn hytrach rhaid iddynt gydymffurfio â set o Safonau’r Gymraeg cenedlaethol.

Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiadau Cydymffurfio i awdurdodau lleol ar 30 Medi 2015. Mae'r ddogfen hon yn rhestru pa rai o'r 176 Safon (fel y rhestrir yn llawn yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) y mae’n rhaid i sefydliad gydymffurfio â hwy, ynghyd ag unrhyw eithriadau a’r dyddiadau gweithredu.
 
Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Dinas Caerdydd i gydymffurfio â safonau a restrir ynghyd â’r dyddiadau cydymffurfio yn yr “Hysbysiad cydymffurfio - Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011” a gyflwynwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 30 Medi 2015.​​​
 
Disgwylir i’r Cyngor gydymffurfio â’r rhan fwyaf o’r safonau erbyn 30 Mawrth 2016.

 

 
 

Trydydd Partïon: Safonau’r Gymraeg 

Mae angen i sefydliadau sy’n cael eu comisiynu i ddarparu gwasanaethau i Gyngor Caerdydd gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg (a gyhoeddwyd i’r Cyngor) lle maent yn berthnasol i’r gwasanaeth/contract penodol hwnnw. Mae’r Canllaw Safonau'r Gymraeg i Drydydd Partion (973kb PDF)​​​​​​ atodedig yn crynhoi gofynion y safonau gyda’r nod o helpu sefydliadau i gydymffurfio â’r gofynion. ​

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Yn gyson â Safonau’r Gymraeg mae Cyngor Caerdydd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sydd yn ymdrin â’i gydymffurfiaeth â’r safonau darparu gwasanaethau, safonau creu polisi a’r safonau gweithredol a gyhoeddwyd yn ‘Hysbysiad Cydymffurfio Cyngor Dinas Caerdydd – Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011’.

Dyma Adroddiad Blynyddol Cyngor Caerdydd ar Safonau’r iaith Gymraeg ar gyfer 2022 i 2023.


Derbyniodd yr Adroddiad gymeradwyaeth Cyngor Caerdydd ar 29 Mehefin 2023.


​Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​


​​​


Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd

 

Mae ystadegau’r cyfrifiad diwethaf sydd ar gael yn nodi:

 
  • Bod gan 16.2% o boblogaeth Caerdydd un neu fwy o sgiliau yn yr iaith Gymraeg (darllen, ysgrifennu a/neu ddeall Cymraeg).
  • Bod 36,735 neu 11.1% o boblogaeth y sir yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
  • Ar gyfer y grŵp oedran 5-15 oed, sy’n cyfateb i'r band oedran ysgol statudol, mae cyfran trigolion Caerdydd sy’n gallu siarad Cymraeg wedi codi o 7.5% ym 1981 i 12.7% ym 1991 a 24.5% yn 2001. Erbyn 2011, roedd y ffigur hwn wedi codi i 26.7%.

 

Mae’r cynnydd ers 1991 yn nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg (yng Nghymru yn ei chyfanrwydd) yn gysylltiedig i raddau helaeth â phlant sy’n cael eu haddysgu yn yr iaith yn yr ysgol.

 

Mae twf o'r fath yn adlewyrchu dwy duedd unigol ac ar y cyd. Yn gyntaf, yn y chwarter canrif diwethaf mae nifer fawr o bobl wedi mudo i Gaerdydd o gadarnleoedd Cymraeg yn sgîl sefydlu gwasanaethau cyfryngau a gweinyddiaeth gyhoeddus Gymraeg yn y brifddinas.

 

Yn ail, mae’n adlewyrchu arferion a pholisïau ymrwymedig tuag at addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd.

 

Ar hyn o bryd mae tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, pymtheg o ysgolion cynradd a dwy uned cyfrwng Cymraeg. Mae tua 4700 o ddisgyblion yn mynychu ar lefel gynradd a thros 2350 ar lefel uwchradd. 

Ewch i wefan Ein Dinas Ein Hiaith i weld addysg a chyfleoedd dwyieithog i bawb​.​

Cysylltu â ni​ 

 

Cysylltu â ni

Ffô​n: 029 2087 2527
​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd