Beth yw Rhyddid Gwybodaeth?
Mae
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi’i chreu i hyrwyddo mwy o onestrwydd a thryloywder ar draws y sector cyhoeddus. Dan y Ddeddf, mae gan unrhyw un hawl i weld gwybodaeth wedi’i chofnodi a gedwir gan y Cyngor.
Beth yw fy hawliau?
- cael gwybod, fel arfer o fewn 20 diwrnod gwaith, p’un a bod y Cyngor yn cadw gwybodaeth wedi’i chofnodi o’r math y gofynnwyd amdani
- os oes gwybodaeth wedi ei chofnodi, yr hawl i gael mynediad iddi os nad yw wedi ei heithrio o’r Ddeddf
- cael cyngor a chymorth rhesymol wrth wneud y cais
Dim ond cyfyngiadau ac eithriadau (â nifer o’r rhain ond yn berthnasol os nad yw er lles y cyhoedd i'r wybodaeth gael ei datgelu) a orfodir gan y ddeddf a deddfwriaethau eraill sy’n berthnasol i’r hawliau hyn. Pan gaiff gwybodaeth ei datgelu gwneir hyn fel arfer drwy gynnig copïau o’r cofnodion a gedwir, ond dylai ceiswyr fod yn ymwybodol mai’r hawl yw cael y wybodaeth – nid copïau o ddogfennau penodol all gynnwys y wybodaeth. Mae’n bosibl y bydd ystyriaethau hawlfraint a chyfyngiadau ar ailddefnyddio yn berthnasol i’r wybodaeth a ddatgelir.
Sut ydw i'n gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth?
I wneud cais am wybodaeth gan Gyngor Caerdydd, dylech sicrhau ei bod ar gael trwy'r
cynllun cyhoeddi (yn aml iawn byddai’n gynt i ddefnyddio’r cyfleuster chwilio ar y wefan honno). Os na ddowch o hyd i’r wybodaeth yr ydych am ei chael, anfonwch eich cais, gyda chymaint o fanylion â phosibl, at:
foi@caerdydd.gov.uk
neu ysgrifennwch at:
Gwella a Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW