Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Cais am Wybodaeth

​Pam rydym yn anfon yr hysbysiad hwn atoch?

Mae Cyngor Caerdydd yn derbyn ceisiadau am wybodaeth bersonol dan y Ddeddf Diogelu Data, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn ddyddiol. Caiff y ceisiadau hyn eu prosesu gan y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth corfforaethol.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham y mae Cyngor Caerdydd yn prosesu eich gwybodaeth bersonol fel ymgeisydd gwybodaeth.

Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn ei gael​​

Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau dan y Ddeddf Diogelu Data, byddwn yn gofyn i ch am faint rhesymol o wybodaeth bersonol cyn i ni ddechrau prosesu eich ceisiadau a datgelu gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Gwybodaeth Adnabyddadwy: Dyddiad Geni a Rhif Yswiriant Gwladol a Rhifau Cyflogai ac Aelodaeth.
  • Manylion cyswllt: Enw, Cyfeiriad, Cyfeiriad E-bost a Rhif Ffôn
  • Prawf Adnabod Ffotograffig: Copi o'ch Pasbort neu Drwydded Yrru
  • Tystiolaeth o Gyfeiriad: Copi o Fil Trydan/Nwy/Dŵr diweddar neu Ddatganiad perthnasol
  • Prawf o Gyfrifoldeb Rhiant; Gwarcheidiaeth; Ysgutor.

Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chasglu gennych chi yn uniongyrchol, fel yr ymgeisydd. Os ydych wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, megis aelodau’r teulu neu bobl ddibynnol sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am yr wybodaeth yn yr hysbysiad hwn a phrif Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Caerdydd.

Sut y byddwn yn defnyddio eich data personol​

Pan fyddwch yn cyflwyno cais am wybodaeth, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar Gyngor Caerdydd i brosesu eich gwybodaeth bersonol dan y ddeddfwriaeth y mae eich cais yn berthnasol iddi.

Yn unol â'r rhwymedigaeth gyfreithiol hon, bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i:

  • Gyfathrebu â chi, gan gynnwys datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
  • Cadarnhau a chroeswirio pwy ydych chi fel y’r ymgeisydd a/neu Destun y Data.
  • Sicrhau bod yr wybodaeth a nodwyd yn berthnasol i chi ac nid i unigolion eraill sydd â'r un enwau a'r un Dyddiad Geni.
  • Sicrhau fod gan unrhyw ymgeiswyr trydydd parti gydsyniad yr awdurdod perthnasol i dderbyn eich gwybodaeth bersonol.

Am faint rydym yn cadw eich data personol​

Rydym ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol am yr amser sydd ei hangen arnom er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Rydym yn cadw gwybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau am gyfnod o 6 blynedd o'r dyddiad y caiff y cais ei gau, ond efallai y byddwn yn dewis newid neu ymestyn y cyfnod hwn yn unol â'r gofynion busnes.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn Amserlen Cadw Corfforaethol Cyngor Caerdydd​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

Rhannu eich gwybodaeth​

Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol fel ymgeisydd am y rhesymau canlynol:

  • ar gyfer gweithdrefnau cyfreithiol pan wneir Gorchymyn Llys
  • mewn cysylltiad ag Achosion Cyfreithiol a/neu at ddibenion sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol
  • i gynorthwyo’r awdurdod i atal/canfod troseddau neu erlyn troseddwyr, neu asesu/talu treth.

Proseswyr Data​​

Mae'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn defnyddio llwyfannau Trydydd Parti i helpu i reoli rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor, ac i sicrhau bod eich cais yn cael ei brosesu'n effeithlon ac yn ddiogel yn unol â'r Egwyddorion Diogelu Data. Mae Cytundebau Prosesu Data ar waith gyda'r sefydliadau trydydd parti canlynol i sicrhau bod eich data'n cael ei brosesu yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data:

Eich Hawliau​​

Fel testun data, mae gennych lawer o hawliau yn gysylltiedig â’ch data personol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hawl mynediad
  • Hawl i gywiro
  • Hawl i ddileu
  • Hawl i dynnu cydsyniad yn ôl
  • Hawl i symud data
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Hawl i wrthwynebu
  • Hawliau yn ymwneud â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Tynnu Cydsyniad yn ôl​

Os ydym yn dibynnu ar gydsyniad oddi wrthoch i brosesu’ch data, gallwch wneud cais i dynnu’ch cydsyniad yn ôl neu gyfyngu ar rai elfennau o’r gwaith prosesu neu wrthwynebu iddo gael ei brosesu.

Os ydych wedi cydsynio i unigolyn arall wneud cais am/derbyn eich gwybodaeth a’ch bod am dynnu’r Cydsyniad hwn yn ôl, rhaid gwneud hyn cyn i’ch gwybodaeth bersonol gael ei datgelu. I wneud hyn, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data.

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

diogeludata@caerdydd.gov.uk​
© 2022 Cyngor Caerdydd