Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Tŷ Storrie

Cartref i blant a phobl ifanc rhwng 6 a 17 oed sydd ag anableddau ac anghenion cymhleth yw Tŷ Storrie sy'n cael eu rhedeg gan Gyngor Caerdydd.

Mae'n amgylchedd cyfforddus a chroesawgar lle mae'r plant yn teimlo'n ddiogel ac yn derbyn gofal.

Mae Tŷ Storrie yng ngorllewin Caerdydd.

Sut mae'r Gwasanaeth yn cael ei ddarparu

Bydd anghenion yr holl blant a phobl ifanc yn cael eu hasesu gan weithwyr cymdeithasol yn nhîm Iechyd ac Anableddau Plant y Cyngor.

Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth i'r teuluoedd drwy ddarparu pecyn unigol o gymorth a gofal i blant a phobl ifanc ar sail argyfwng a seibiannau byr i ffwrdd o'u cartref teuluol sy'n eu galluogi i feithrin sgiliau a chyfeillgarwch a chael profiadau newydd.

Safon y Gofal a Chymorth

Mae tîm staff Tŷ Storrie yn cydnabod y gall pobl ifanc sy'n dod i mewn i'r cartref deimlo'n agored iawn i niwed, yn bryderus neu'n ofidus.

Pan fydd person ifanc yn cyrraedd y Cartref mae'n bwysig iddo deimlo'n ddiogel.

Mae staff Tŷ Storrie yn cydweithio'n agos â rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill, gan weithio fel tîm o amgylch y plentyn, i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu.

Mae'r holl staff yn ymgymryd ag ystod eang o hyfforddiant a chymwysterau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Tŷ Storrie yn gwerthfawrogi hunan-barch pobl ifanc a bydd yn mynd ati i ddathlu achlysuron crefyddol, diwylliannol ac arbennig.

Cefnogir pobl ifanc i feithrin cyfeillgarwch â phobl ifanc eraill yn y cartref.

Cymryd rhan mewn gweithgareddau, hobïau neu ddiddordebau unigol

Anogir pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac fe'u cefnogir i ddewis yr hyn yr hoffent gymryd rhan ynddo.

Enghreifftiau o weithgareddau y mae pobl ifanc wedi ymgymryd â hwy o'r blaen neu ar hyn o bryd yw teithiau i'r traeth, prydau bwyd, trampolinio, sinema, celf a chrefft, gemau pêl-droed / rygbi, gemau cyfrifiadurol, ymweld â'r parc lleol a cherdded.

Datblygiad

Tra'n aros yn Nhŷ Storrie anogir pobl ifanc i ddatblygu eu potensial drwy:

  • Ddysgu sgiliau newydd, er enghraifft paratoi prydau bwyd gyda'r staff. Mae'r gegin hefyd wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
  • Bwyta'n iach; rhoi cynnig ar fwydydd newydd.
  • Cael eu cefnogi i ddysgu gwisgo a golchi eu hunain
  • Gwella sgiliau cyfathrebu, er enghraifft defnyddio cymhorthion cyfathrebu, Makaton, gwrthrychau cyfeirio a PECS.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol, er enghraifft ymgysylltu a meithrin cyfeillgarwch ag eraill.

Anghenion Iaith a Chyfathrebu y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth

Yn Nhŷ Storrie rydym yn mynd ati i hyrwyddo a chefnogi dull ac anghenion cyfathrebu pob unigolyn.

Mae'r tîm staff yn cydnabod bod iaith yn bwysig i ddatblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol pobl ifanc.

Mae wedi'i gwreiddio yn hunaniaeth person ifanc ac mae'n cyfrannu at ddatblygu ei werthoedd personol a golwg gadarnhaol ar ei le mewn cymdeithas.

Mae Tŷ Storrie hefyd yn gallu cael mynediad at wasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd sy'n cefnogi teuluoedd pobl ifanc i deimlo eu bod wedi'u cynnwys.