Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gofalwyr ifanc

Pwy sy'n ofalwr ifanc?

Mae gofalwr ifanc yn rhywun dan 18 oed sy'n cymryd y cyfrifoldeb o ofalu am rywun (fel arfer ei fam, tad, brawd neu chwaer) sy'n:

  • sâl
  • anabl
  • oedrannus
  • yn dioddef gofid meddwl
  • camddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol

Byddai'n rhaid i ofalwr ifanc fod yn gwneud nifer o dasgau, gan gynnwys:

  • Gofal cyffredinol (megis rhoi moddion, newid rhwymynnau, helpu gyda symudedd)
  • Tasgau domestig (megis coginio, glanhau, golchi, smwddio, siopa)
  • Cymorth emosiynol (megis gwrando ar bobl a'u cefnogi)
  • Gofal personol (megis gwisgo, golchi a helpu pobl i fynd i'r ty bach)
  • Gofal plant (megis helpu gyda brodyr a chwiorydd iau)
  • Gofal arall (megis helpu gyda thasgau yn y cartref a thasgau gweinyddol eraill, talu biliau, mynd gyda'r rhywun at y meddyg neu i'r ysbyty)

Beth i'w wneud os ydych yn ofalwr ifanc

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, yn ofalwr ifanc, mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym am eich sefyllfa fel y gallwch chi - a'r person rydych yn gofalu amdano - gael yr help a'r cymorth sydd ei angen arnoch.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar Ofalwyr Ifanc neu i wneud atgyfeiriad Gofalwyr Ifanc gallwch Gysylltu â Phorth Teuluoedd Caerdydd ar 03000 133 133 neu e-bostiwch [email protected]

Pa fath o help fydd ar gael i mi?

Rydym yn gweithio'n agos gyda Gofalwyr Ifanc YMCA ac asiantaethau eraill i'ch helpu i fwynhau'r plentyndod drwy roi'r canlynol i chi:

  • cymorth emosiynol a chyngor cymorth
  • i gael help yn y cartref
  • cyngor ar gael seibiant o'r gofalu
  • y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau llawn hwyl
  • y cyfle i gwrdd â phobl ifanc eraill a rhannu profiadau
  • help gyda'ch pryderon neu anawsterau
  • help i gael addysg

Sut beth yw gofalu i berson ifanc?

Mae gofalwyr ifanc yn aml iawn yn cymryd cyfrifoldebau pobl mewn oed. Mae hyn yn golygu eu bod yn aml yn peidio â chael y pethau y mae plant eraill yn eu cymryd yn ganiataol, megis cyfleodd i ddysgu, chwarae a chael hwyl.

Gwybodaeth bellach

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar Ofalwyr Ifanc gallwch gysylltu â Chydlynydd Gofalwyr Ifanc dynodedig Caerdydd.

Rhif swyddfa - 02920872046
Symudol - 07772 439767

Neu cysylltwch â ni ar:

Cysylltu â ni