Er cymaint o foddhad y gall ei roi, gall bod yn ofalwr effeithio ar eich cartref a'ch bywyd gwaith, eich amser rhydd a'ch perthnasoedd.
Gallwch ofyn am asesiad anghenion gofalwyr i'ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch.
Byddwn yn trefnu galwad sgrinio i drafod eich sefyllfa a rhoi gwybod am yr amseroedd aros ar gyfer cael asesiad. Os hoffech i'ch asesiad gael ei wneud wyneb yn wyneb, cysylltwch â ni.
Pa fath o gymorth a chefnogaeth y gallaf ei gael?
Yn dibynnu ar ganlyniad eich asesiad, gallwn eich helpu i:
- ddod o hyd i gymorth gan wasanaethau eraill fel iechyd a thai,
- cysylltu â grwpiau a sefydliadau sy'n cefnogi gofalwyr,
- dod o hyd i wybodaeth a chyngor fel budd-daliadau, incwm a'ch hawliau,
- gosod larwm cymunedol,
- trefnu gweithgareddau ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano, a
- dod o hyd i wasanaethau sy'n rhoi seibiant i chi.
Gwneud cais am asesiad gofalwr
I gwblhau'r atgyfeiriad hwn, mae'n rhaid i'r oedolyn sy'n derbyn gofal fyw yng Nghaerdydd. Os nad ydynt yn byw yng Nghaerdydd, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol.
Pan fyddwch yn cwblhau asesiad anghenion gofalwyr, gallwch ddweud wrthym:
- am y gofal a'r cymorth rydych chi'n eu darparu,
- unrhyw bryderon sydd gennych, a
- beth rydych yn gobeithio y bydd canlyniad eich asesiad.
Ni fyddwch yn gallu cwblhau'r atgyfeiriad hwn os ydych yn:
- rhiant sy'n ofalwr,
- gofalu am blentyn dan 18 oed, neu yn
- ofalwr ifanc sy'n gofalu am oedolyn neu blentyn.
Yn hytrach, dylech gysylltu â'r Porth Teuluoedd i gael cyngor a chymorth. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Porth Teuluoedd, neu ffoniwch nhw ar 03000 133 133.
Gwneud cais am asesiad gofalwr
Cysylltwch â ni
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i lenwi'r ffurflen hon, gallwch ffonio neu anfon e-bost atom.
Ffôn: 029 2023 4234
E-bost: [email protected]
