Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Anabledd plant

Mae ein Tîm Iechyd ac Anabledd Plant yn credu bod plentyn sydd ag anabledd yn blentyn yn gyntaf oll a dylai gael ei annog a'i helpu i gael defnyddio'r un gwasanaethau a chael yr un cyfleoedd â phlant eraill heb anableddau. Rydym yn cynnig ac yn trefnu gwasanaethau ar gyfer teuluoedd y mae ganddynt blentyn neu blant sydd ag anghenion ychwanegol.

Gall yr anghenion hyn fod o ganlyniad i:

  • anableddau corfforol neu ddysgu
  • nam ar y synhwyrau
  • salwch cronig

Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac asiantaethau eraill i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc sydd ag anableddau.

Os oes angen gwybodaeth neu gyngor arnoch, neu os hoffech i ni gynnal asesiad er mwyn cael gwybod am y ffordd orau y gallwn eich helpu a'ch cynorthwyo ffoniwch y Pwynt Mynediad Plant ar

029 2053 6490

Os nad yw yn ystod oriau swyddfa, ffoniwch y swyddog dyletswydd brys ar

029 2078 8570

Gwybodaeth am wasanaethau a chymorth ar gyfer plant anabl a'u teuluoedd yng Nghaerdydd.