Gallwch wneud taliadau gan ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau isod:
Trefnu Debyd Uniongyrchol
Mae trefnu debyd uniongyrchol i dalu'ch bil Ardrethi Busnes yn gyflym ac yn hawdd. Rydym yn cynnig pedwar dyddiad talu, a gallwch ddewis talu dros 12 mis.
Lawrlwythwch ffurflen gais debyd uniongyrchol (PDF, 84 KB) neu cwblhewch y mandad debyd uniongyrchol ar gefn eich bil Ardrethi Busnes.
Fel arall cysylltwch â ni drwy ffonio 029 2087 1491.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais ar ôl eu cwblhau i:
Cyngor CaerdyddBlwch SP 9000CaerdyddCF10 3WD
Talu'ch bil ar-lein
Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu'ch bil Ardrethi Busnes.
Sicrhewch fod eich rhif cyfrif a'ch manylion talu wrth law gennych. Mae rhif eich cyfrif yn 11 digid o hyd ac yn dechrau gyda 1.
System daliadau awtomatig dros y ffôn
Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn. System daliadau awtomatig 24 awr yw hon. Bydd angen y canlynol arnoch cyn i chi ffonio:
- rhif cyfrif eich Ardrethi Busnes,
- eich Cerdyn Debyd neu Gredyd,
- y swm rydych am ei dalu.
Ffoniwch 029 2044 5900. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud eich taliad.
Cyfrif banc
Dyfynnwch eich cyfeirnod cyfrif ardrethi 11 digid gydag unrhyw daliad.
Banc Dinas a Sir Caerdydd yw Natwest Bank PLC, 96 Heol y Frenhines, Caerdydd CF10 2GRCod didol: 52-21-06Rhif cyfrif: 20408838
IBAN: GB21 NWBK 5221 0620 4088 38
Swift: NWBKGB2L
Gellir e-bostio hysbysiad talu i [email protected] .
Drwy'r post
Anfonwch eich siec / archeb bost ynghyd â'ch cerdyn talu i:
Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD
Dylid croesi sieciau a'u gwneud yn daladwy i 'Cyngor Caerdydd'. Ni ddylid anfon sieciau at unrhyw swyddog unigol.
Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig.
Peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor mae croeso i chi gysylltu â ni
029 2087 1491
