Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) yn diweddaru'n rheolaidd werthoedd ardrethol pob eiddo busnes ac eiddo annomestig arall (eiddo nad ydynt yn gartrefi preifat yn unig) yng Nghymru a Lloegr. Gelwir hyn yn ailbrisiad.
Gwerthoedd ardrethol yw am faint o rent y gallai eiddo fod wedi cael ei osod ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer prisiad 2023, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2021. Rydym yn defnyddio'r gwerthoedd ardrethol hyn i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Cynhelir ailbrisiadau i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. Mae hyn yn golygu bod biliau ardrethi busnes yn seiliedig ar wybodaeth fwy cyfredol.
Bydd yr ailbrisiad nesaf yn berthnasol o 1 Ebrill 2026.
Dod o hyd i'ch gwerth ardrethol
Gallwch chi ddod o hyd i'ch prisiad ardrethi busnes ar wefan GOV.UK.
Mae'r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar luosydd a rhyddhad ardrethi busnesau bach Cymru rhwng 2022 a 2023. Bydd y lluosydd yn cael ei ddiweddaru ar gyfer 2023 i 2024, cyn i filiau ardrethi busnes gael eu hanfon, a gallai hyn arwain at newid i'r amcangyfrif a ddangosir.
Ailbrisiad 2026
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd gwerth ardrethol newydd ar waith. Gallwch hefyd fynd i wefan GOV.UK i:
- Ddod o hyd i'ch prisiad ardrethi busnes newydd
- Gweld yr ystadegau ar gyfer ailbrisiad 2026
- Cael help gyda'r ailbrisiad
Amcangyfrifwr ardrethi busnes
Ar wefan GOV.UK, gallwch amcangyfrif eich bil yn y dyfodol unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau manylion lluosyddion newydd ac unrhyw ryddhad yng Nghymru.
Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Mae'r ASB yn gyfrifol am brisio eich eiddo. Felly, bydd angen i chi gysylltu â'r ASB ar gyfer pob ymholiad am eich gwerth ardrethol. Er enghraifft, os ydych chi'n:
- meddwl bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel, neu
- os oes angen i chi ddweud wrthynt am newidiadau i'ch eiddo.
Bydd angen i chi sefydlu cyfrif prisio ardrethi busnes ar wefan GOV.UK.
Rydym yn gyfrifol am unrhyw beth sy'n ymwneud â'ch bil ardrethi busnes.
Os ydych chi'n meddwl bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel
Tra bod yr ASB yn ystyried eich cais, rhaid i chi barhau i dalu eich ardrethi busnes fel arfer nes iddynt wneud penderfyniad.
Newidiadau i'ch eiddo
Efallai y bydd yr ASB yn derbyn eich newidiadau a diweddaru'r prisiadau presennol ac yn y dyfodol.
