Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Ardaloedd gwella busnes

Gofynnwyd i Gyngor Caerdydd gynorthwyo wrth filio a chasglu'r ardoll y mae'n rhaid i rai busnesau canol y ddinas ei dalu er dibenion cynllun Ardal Gwella Busnes Caerdydd.

I gael gwybod mwy am y cynllun, ewch i wefan Caerdydd AM BYTH.

Hysbysiad o ganlyniad pleidlais adnewyddu AGB Caerdydd AM BYTH

Mae Ardal Gwella Busnes (AGB) yn ardal ddiffiniedig lle mae busnesau wedi pleidleisio i dalu ardoll ychwanegol ar ben eu hardrethi busnes. Mae'r ardoll yn cael ei chasglu am gyfnod penodol, pum mlynedd fel arfer, ac fe'i defnyddir i ariannu prosiectau a mentrau sydd o fudd i fusnesau o fewn ardal yr AGB.

Ar 2 Gorffennaf 2026, cynhaliodd Cyngor Caerdydd bleidlais adnewyddu ar gyfer Ardal Gwella Busnes (AGB) Caerdydd AM BYTH.

Roedd y pleidleiswyr cymwys yn dalwyr ardrethi annomestig sy'n atebol i dalu'r ardoll AGB ar ddyddiad yr hysbysiad. Roedd gan bob pleidleisiwr cymwys hawl i fwrw un bleidlais ar gyfer pob eiddo yr oeddent yn ei feddiannu, neu, os nad oeddent wedi'i feddiannu, yn berchen arno, o fewn ardal ddaearyddol yr AGB arfaethedig.

Cyhoeddwyd canlyniad y bleidlais ar 3 Gorffennaf 2026. Mae'r hysbysiad hwn yn nodi canlyniad swyddogol y bleidlais ar barhad Ardal Gwella Busnes Caerdydd AM BYTH.

Gweld y Datgan canlyniadau (PDF, 204 KB).

Gofynnwyd i fusnesau sy'n gymwys i bleidleisio a oeddent yn cefnogi'r cynnig i'r AGB barhau am dymor pum mlynedd arall. Cymeradwywyd y cynnig, ar ôl sicrhau mwyafrif o blaid o ran nifer y pleidleisiau a fwriwyd ac o ran gwerth ardrethol cyfanredol y rhai a bleidleisiodd.

 

Sut a ble mae talu fy Ardoll AGB?

Gallwch dalu drwy unrhyw un o'r dulliau canlynol.
 

Talu'r Ardoll AGB Ar-lein

Defnyddiwch ein system dalu ddiogel ar-lein i dalu'r Ardoll AGB.

Cofiwch fod angen eich rhif cyfrif 9 digid arnoch, sy'n dechrau â "505" a'r manylion talu.

talu ar-lein


Talu dros y ffôn gan ddefnyddio Cerdyn Debyd neu Credyd

Ffoniwch ein Tîm Ardrethi Busnes ar 029 2087 1491.
 

Talu drwy'r post

Anfonwch eich siec/archeb post gyda'ch manylion talu (rhif cyfrif neu gyfeiriad yr eiddo y mae'r bil yn berthnasol iddo) i:

Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Cyngor Caerdydd
CF10 3WD

Dylai sieciau ac Archebion Post fod wedi'u croesi ac yn daladwy i "Cyngor Caerdydd" ac ni ddylid cyfeirio sieciau at unrhyw swyddog unigol.

I gael rhagor o gyngor, cysylltwch â ni ar 029 2087 1491.