Rydyn ni'n gweithio gyda Calibre i osod Parth Parcio B3 yn ardal De Glan-yr-afon.
Dechreuodd y gwaith ym mis Gorffennaf 2025 ac roedd disgwyl iddo gymryd 3 mis i'w gwblhau. Yn anffodus, oherwydd oedi, ni ddisgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau tan ddiwedd mis Tachwedd 2025. Bydd trigolion a busnesau yn derbyn llythyr ar ddechrau mis Rhagfyr yn esbonio'r camau nesaf.
Gweler map o Dde Glan-yr-afon (Parth B3) (PDF, 5 MB).
Newidiadau i barth parcio
Rydyn ni'n ymwybodol bod pobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i le parcio addas oherwydd y galw mawr yn yr ardal hon. Mae parthau parcio wedi helpu i leihau'r problemau hyn mewn rhannau eraill o'r ddinas.
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae parcio ym mharth B3 yn cael ei reoli. Er mwyn sicrhau bod parcio yn cael ei flaenoriaethu i drigolion a'r rhai sy'n ymweld â'r ardal, rydyn ni'n:
- Cyfyngu ar barcio rhwng 8am a 10pm, bob dydd
- Ehangu'r parth i gynnwys mwy o strydoedd
- Newid yr holl fannau parcio deiliaid trwydded yn unig i fod yn weithredol 24 awr y dydd, bob dydd
- Newid yr holl fannau aros cyfyngedig 2 awr i fannau talu ac aros
- Caniatáu i ddeiliaid trwydded barcio mewn mannau talu ac aros
- Cynnwys adeiladau cymunedol yn y cynllun trwyddedau (fel mannau addoli cyhoeddus)
- Cyflwyno mannau llwytho newydd, mannau clybiau ceir a mannau parcio i bobl anabl
Pryd fydd y parth ar waith?
Bydd y parth parcio yn gweithredu rhwng 8am a 10pm bob dydd. Bydd y cyfyngiadau yn berthnasol i:
- fannau aros cyfyngedig,
- mannau talu ac aros, a
- llinellau melyn sengl.
Bydd y cyfyngiadau hefyd yn berthnasol trwy'r dydd, bob dydd i:
- fannau parcio deiliad trwydded yn unig,
- llinellau melyn dwbl, a
- mannau parcio i ddeiliaid bathodyn glas.
Strydoedd yn y parth
- Beauchamp Street
- Brook Street
- Teras Coldstream
- Gerddi Clare
- Clare Place
- Stryd Clare
- De Burgh Place
- De Burgh Street
- Gerddi Despenser
- Stryd Despenser
- Despenser Place
- Arglawdd Fitzhamon
- Gloucester Street
- Green Street
- Heath Street
- Heol y Gadeirlan Isaf
- Machen Place
- Mandeville Place
- Mandeville Street
- Mark Street
- Neville Place
- Stryd Neville
- Plantagenet Street
- Rawden Mews
- Stryd Tudor
- Wyndham Street (rhwng y gyffordd â Heath Street a'r pen caeedig)
- Unrhyw ffyrdd neu lonydd sy'n hygyrch o'r strydoedd hyn
Gallwch ddysgu mwy am sut rydyn ni'n cynllunio parthau rheoli parcio.
Mathau o drwyddedau
Byddwn yn cyflwyno trwyddedau i:
- breswylwyr, a
- safleoedd cymunedol.
Gallwch wneud cais am 2 drwydded fesul eiddo.
Bydd preswylwyr hefyd yn gallu gwneud cais am drwyddedau ar gyfer ymwelwyr.
Byddai gofalwyr a chontractwyr hefyd yn gallu gwneud cais am drwyddedau tra'n gweithio yn y parth.
Ni fyddwn yn cyflwyno trwyddedau ar gyfer:
- busnesau,
- eiddo ar ffyrdd preifat,
- eiddo a adeiladwyd, a ddatblygwyd neu a addaswyd ar ôl 1 Medi 2011,
- datblygiadau sydd â mannau parcio oddi ar y stryd (hyd yn oed os nad oes digon o fannau parcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad), neu
- neuaddau preswyl i fyfyrwyr.
Parcio gyda thrwydded
Bydd gyrwyr â thrwyddedau yn gallu parcio mewn:
- mannau i ddeiliaid trwydded yn unig, a
- mannau talu ac aros heb fod angen tocyn ac am gyhyd ag sydd angen.
Bydd deiliaid trwydded yn gallu parcio mewn unrhyw fan parcio â thrwydded cymwys yn yr ardal.
Parcio heb drwydded
Bydd gyrwyr heb drwydded yn gallu parcio mewn mannau aros cyfyngedig neu fannau talu ac aros.
Gallwch barcio am ddim mewn mannau aros cyfyngedig. Yn dibynnu ar ble rydych chi yn y parth, gallwch barcio am hyd at:
- 30 munud, neu
- 1 awr.
Gwiriwch yr arwyddion yn y parth.
Gallwch hefyd barcio mewn mannau talu ac aros gyda thocyn. Yn dibynnu ar ble rydych chi yn y parth, gallwch barcio am hyd at:
- 2 awr, neu
- 4 awr.
Gwiriwch yr arwyddion yn y parth.
Byddai'r mannau hyn ar gael ar draws y parth i ymwelwyr a siopwyr eu defnyddio.
Rydyn ni'n annog cymudwyr i ddod o hyd i opsiynau teithio amgen.
Cost
| Amser | Cost |
|---|---|
| 30 munud | £1.80 |
| 1 awr | £3.50 |
| 2 awr | £4.50 |
| 3 awr * | £5.50 |
| 4 awr * | £6.50 |
| Ar ôl 6pm | £1.80 |
* Ddim ar gael ym mhob lleoliad yn y parth.
Byddai costau trwydded yr un peth â'r rhai sydd eisoes ar waith ledled y ddinas. Mwy am drwyddedau.
Byddai trefniadau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn aros yr un peth. Dysgwch fwy am barcio i ddeiliaid bathodyn glas.
Ymgynghoriad cyhoeddus
Gofynnon ni i drigolion a'r cyhoedd ehangach rannu eu barn ar y newidiadau arfaethedig i'r parth. Roedd yr adborth a gawsom yn gadarnhaol ac wedi cael ei ddefnyddio i lunio ein cynlluniau.
