Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Oes angen caniatâd cynllunio arna i?

Bydd angen caniatâd cynllunio arnoch os ydych am addasu adeilad, darn o dir neu adeiledd parhaol (fel wal) a bod angen i chi wneud gwaith adeiladu i gyflawni hyn. Bydd angen caniatâd cynllunio arnoch hefyd os bydd y gwaith yn newid y ffodd y caiff yr adeilad neu'r tir ei ddefnyddio.

Gwneud cais cynllunio

Fel arfer, bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i:

  • godi adeilad newydd
  • estyn neu addasu adeilad
  • gwneud newidiadau i'r ffordd y caiff adeilad ei ddefnyddio, er enghraifft troi tŷ'n fflatiau neu droi adeilad diwydiannol yn gartref
  • cyflawni gwaith peirianneg neu waith arall, fel carthffosiaeth
  • dymchwel adeilad neu adeiledd
  • cyflawni gwaith ar adeilad rhestredig
  • cyflawni gwaith mewn ardal gadwraeth
  • cyflawni gwaith ar goed a ddiogelir neu goed mewn ardal gadwraeth
  • codi adeiladau amaethyddol newydd.

Mae gwefan Porth Cynllunio Cymru yn cynnwya mwy o wybodaeth i'ch helpu i ddod o hyd i ba fath o ganiatâd cynllunio sydd ei angen arnoch, gan gynnwys:

  • Ceisiadau electronig ar gyfer caniatâd cynllunio
  • dysgu am y system gynllunio
  • gwybodaeth am ddatblygiad
  • apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio
  • ymchwilio i'r polisi llywodraeth diweddaraf
  • darllen a lawrlwytho'r canllaw cymorth
  • ffurflenni a dogfennau eraill

Datblygiadau a ganiateir lle nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch

Mae rhai mân welliannau, addasiadau ac estyniadau y gallwch eu gwneud i'ch tŷ nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch i'w cwblhau. Gall y rhain gynnwys mathau penodol o bortsh, heuldai gwydr o faint penodol a rhai addasiadau mewnol.

'Datblygiadau a ganiateir' yw'r enw ar y rhain. Gallwch gael rhagor o gyngor ar ddatblygiadau a ganiateir drwy lawrlwytho llyfryn gwybodaeth o wefan Lywodraeth Cymru neu o'r Porth Cynllunio Cymru cenedlaethol.

Ffyrdd eraill o gadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio arnoch

Os ydych dal yn ansicr a oes angen caniatâd cynllunio arnoch, gallwch:

Os oes angen cyngor arnoch, gweler Ymholiadau cyn gwneud cais