Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ydy'ch amgylchiadau wedi newid?

Gallai newidiadau i'ch amgylchiadau personol effeithio ar faint o fudd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Cyngor a gewch.

Sicrhewch eich bod yn dweud wrthym am unrhyw newidiadau sylweddol i'ch amgylchiadau fel y gallwn newid ein cofnodion a gwneud unrhyw newidiadau i'ch taliadau. Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Cyngor, dim ond unwaith sydd eisiau adrodd y newid i ni.

Gallwch wirio'r wybodaeth sydd gyda ni am eich amgylchiadau personol, ac adrodd i ni am unrhyw newidiadau i'ch amgylchiadau ar-lein.

Gwiriwch fanylion eich cais neu adroddwch am newid

Bydd angen with rhif cais cyfredol arno chi, sydd wedi cael ei ysgrifennu ar unrhyw llythr rydyn wedi danfon i chi. Gallwch hefyd adrodd am unrhyw newidiadau yn eich Hyb lleol, neu ffonio 029 2087 1071.

Mae angen i chi ddweud wrthym ni os:

  • ydych yn newid cyfeiriad
  • ydych chi neu eich partner yn dechrau gweithio, yn newid swydd neu'n cael codiad cyflog
  • oes unrhyw newid yn eich incwm chi neu'ch partner
  • os yw unrhyw fudd-daliadau lles yn newid, fel credydau treth os yw eich Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm yn dod i ben
  • os yw un o'ch plant yn gadael ysgol neu'ch bod chi'n cael babi
  • os yw unrhyw un yn symud i mewn neu allan o'r eiddo, hyd yn oed dros dro
  • os mae unrhyw un sy'n byw yn yr eiddo yn mynd ban am fwy na 4 wythnos, hyd yn oed ac maen nhw dim ond wedi mynd ar wyliau neu i aros gyda theulu
  • os oes gennych bartner newydd neu os ydych yn priodi neu'n gwahanu
  • os oes newid yn eich cynilion (dim ond os ydynt dros gyfanswm o £6000)
  • os ydych chi'n dechrau neu'n gorffen talu costau gofal plant neu os yw'r swm yn newid
  • os yw eich rhent yn newid (oni bai eich bod chi'n denant i'r cyngor)
  • os oes newid yn amgylchiadau unrhyw un yn eich cartref
  • os oes angen i chi gofrestru eich cyflogaeth gyda'r Swyddfa Gartref (cofiwch ddweud wrthynt os ydych yn newid eich swydd, a dywedwch wrthym ni hefyd).

Dim ond enghreifftiau yw'r rhain a dylech ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newid a allai effeithio ar eich budd-dal.