Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cap budd-daliadau

Mae'r cap budd-daliadau yn derfyn ar gyfanswm y budd-dal y gall pobl o oedran gweithio ei gael, a osodwyd gan y llywodraeth ganolog.

Darganfyddwch a yw'r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch chi.

Rhesymau pam y byddai'r cap yn effeithio arnoch chi

Mae'r cap budd-daliadau yn effeithio ar:

  • Gredyd Cynhwysol,
  • Lwfans Profedigaeth,
  • Budd-dal Plant,
  • Credyd Treth Plant,
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth,
  • Budd-dal Tai,
  • Budd-dal analluogrwydd,
  • Cymhorthdal Incwm,
  • Lwfans Ceisio Gwaith,
  • Lwfans Mamolaeth,
  • Lwfans Anabledd Difrifol, a
  • Lwfans Rhiant Gweddw (neu Lwfans Mam Weddw neu Bensiwn Weddw os dechreuoch ei gael cyn 9 Ebrill 2001).

 

Rhesymau pam na fyddai'r cap yn effeithio arnoch chi

Fel arfer, ni fydd y cap budd-daliadau yn effeithio arnoch os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch wirio'ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UK.

Sylwer, os ydych yn rhan o gwpl a naill ai eich bod chi neu'ch partner chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y cap effeithio arnoch chi.

Ni fydd effaith arnoch gan y cap os ydych chi neu eich partner:

  • yn derbyn Credyd Treth Gwaith (hyd yn oed os mai'r 'swm' a gewch yw £0),
  • yn derbyn Credyd Cynhwysol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd sy'n eich atal rhag gweithio (gelwir hyn yn 'allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith'),
  • yn derbyn Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn gofalu am rywun sydd ag anabledd, neu
  • yn derbyn Credyd Cynhwysol ac mae'r ddau ohonoch yn ennill £793 neu fwy (gyda'i gilydd) y mis, ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Ni fydd effaith arnoch ychwaith os ydych chi, eich partner, neu unrhyw blant dan 18 oed sy'n byw gyda chi eisoes yn cael help trwy:

  • Daliad Anabledd Oedolion (TAO),
  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog,
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog,
  • Lwfans Gweini,
  • Lwfans Gofalwr,
  • Taliad Cymorth i Ofalwyr,
  • Taliad Anabledd Plant,
  • Lwfans Byw i'r Anabl (LBA),
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os ydych yn derbyn yr elfen gymorth),
  • Lwfans Gwarcheidwad,
  • Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfatebol fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog),
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB),
  • Pensiynau rhyfel, neu
  • Pensiwn Gweddwon Rhyfel.

 

Beth yw'r terfyn?

Gweld cyfanswm y budd-dal y gallwch ei gael.

Cap budd-daliadau y tu allan i Lundain Fwyaf
AmgylchiadSwm yr wythnosSwm y mis
Os ydych chi'n gwpl£423.46£1,835
Os ydych chi'n rhiant sengl ac mae eich plant yn byw gyda chi£423.46£1,835
Os ydych chi'n oedolyn sengl£283.71£1,229.42

 

Sylwer, os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Plant, ni allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Gwaith mwyach. Gallwch barhau i ychwanegu Credyd Treth Gwaith at hawliad credyd treth plant presennol.

Beth gallaf ei wneud nawr?

Gwybodaeth am ba gamau i'w cymryd nesaf.


Ewch i'ch Hyb lleol

Yn ein Hybiau, gallwn eich helpu chi:


Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, gallwch gysylltu â'r AGPh yn uniongyrchol, neu drwy'r dyddiadur yn eich cyfrif ar-lein.


Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau eraill

Os nad ydych yn cael Credyd Cynhwysol ond yn cael budd-daliadau eraill, gallwch ffonio'r llinell gymorth cap budd-daliadau ar 0800 169 0145.