Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ar Fudd-dal Tai, gallwch:

  • ofyn am ragor o wybodaeth am y penderfyniad
  • apelio yn erbyn y penderfyniad

Mae rheolau gwahanol o ran penderfyniadau ar Fudd-dal Tai a Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Os ydych yn apelio yn erbyn y ddau benderfyniad, gweler y canlynol hefyd sut i apelio yn erbyn penderfyniad ar Ostyngiad y Dreth Gyngor.

Gofyn am ragor o wybodaeth am y penderfyniad

Pan wnawn benderfyniad ar eich Budd-dal Tai, byddwn yn anfon llythyr atoch. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth ynghylch y penderfyniad, dylech ofyn am ddatganiad rhesymau. Os gofynnwch am hyn o fewn mis i'r penderfyniad cewch amser ychwanegol os penderfynwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad gallwch apelio i'r Adran Budd-daliadau yn y lle cyntaf neu gallwch apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys annibynnol.

Dylech apelio o fewn mis i'r penderfyniad. Os ydych yn cyflwyno apêl yn hwyr, bydd angen i chi ofyn am estyniad amser ac egluro pam fod eich apêl yn hwyr. Mae terfyn amser eithaf o 13 mis ar apeliadau.

Pwy all apelio?

Gall y bobl ganlynol apelio:

  • yr hawliwr,

  • penodai swyddogol sy'n gweithredu ar ran yr hawliwr,

  • y landlord (os yw'r apêl yn ymwneud â thalu Budd-dal Tai yn uniongyrchol neu adennill gordaliad budd-dal).

Sut i apelio

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad bydd angen i chi apelio'n ysgrifenedig drwy:

  • gwblhau ffurflen cais am adolygiad (PDF, 162 KB).
  • ysgrifennu llythyr sy'n nodi'r rhesymau dros eich apêl
  • anfon e-bost i [email protected] sy'n nodi'r rhesymau dros eich apêl
  • ffonio'r Tîm Apeliadau ar 029 2038 5888. Byddwn yn nodi manylion eich cais ac yn eu hanfon atoch i chi gael cadarnhau eu bod yn gywir, a byddwch yn eu llofnodi i ddweud eich bod yn cytuno â nhw.

Gallwch alw heibio yn un o'n Hybiau am gymorth gyda'r apêl.

Pan gawn fanylion eich apêl byddwn yn ailystyried y penderfyniad ac yn rhoi'r holl wybodaeth i chi. Byddwn yn newid y penderfyniad os oedd yn anghywir ac yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu o ganlyniad eich apêl.

Apelio i Dribiwnlys Annibynnol

Os byddwch yn dal yn anfodlon ar y penderfyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Annibynnol. Rhaid i chi gyflwyno apêl ysgrifenedig. Ni allwch apelio i Dribiwnlys dros y ffôn neu drwy e-bost.

Mae tribiwnlysoedd gwahanol yn gwrando ar apeliadau Budd-dal Tai ac apeliadau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Os byddwch yn apelio yn erbyn y ddau benderfyniad, bydd dau wrandawiad yn cael eu cynnal ar wahân.

Apelio yn erbyn penderfyniad ar Fudd-dal Tai

Os ydych chi am apelio i'r Gwasanaeth Tribiwnlys, rhaid i chi anfon eich apêl i'r adran Budd-daliadau. Rhaid i'ch apêl:

  • fod yn ysgrifenedig ac wedi ei lofnodi - ni dderbynnir galwadau ffôn na negeseuon e-bost,
  • egluro pa benderfyniad rydych chi am apelio yn ei erbyn,
  • nodi pam eich bod yn anghytuno.

Rhaid i ni gael eich llythyr apelio o fewn mis i'r dyddiad a ddangosir ar lythyr y penderfyniad y gwnaethom ei anfon atoch.

Os gwnewch apêl yn hwyr, bydd angen i chi ofyn am estyniad amser ac esbonio pam fod eich apêl yn hwyr. Mae terfyn amser eithaf o 13 mis ar apeliadau.

Gwybodaeth am y Gwasanaeth Tribiwnlys