Os byddwch angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Oes gen i hawl i grwydro?
Yn gyffredinol, nac oes, dim ond ar dir Mynediad Agored a Thir Comin dynodedig a Grîn y Pentref. Ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus, mae'n rhaid i chi aros ar y llwybr llinol dynodedig.
A fyddaf i'n tresmasu os byddaf yn gwyro i ffwrdd oddi wrth lwybr sydd â Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi'u rhwystro?
Na. Yn 1781 pennodd yr Arglwyd Mansfield reol am wyro naturiol "er daioni pobl yn gyffredinol mae pobl yn pasio i mewn i linell arall."
Ydy hi'n wir fod hawl tramwy cyhoeddus yn dod i ben os nad yw'n cael ei ddefnyddio am 20 mlynedd?
Na, dydy hyn ddim yn wir. Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn parhau i fodoli'n amhenodol heblaw bod y tir y maent yn ei groesi'n cael ei ddinistrio (er enghraifft gan erydiad yr arfordir), neu ei ddileu gan broses gyfreithiol. Ond, mae'r gwrthwyneb yn wir, oherwydd gellir sicrhau hawl tramwy cyhoeddus o dan amgylchiadau penodol lle doedd dim o'r blaen os yw llwybr yn cael ei ddefnyddio am 20 mlynedd (Adran 53, Deddf Priffyrdd 1980) neu am lai o amser (os yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigon aml) o dan y gyfraith gyffredin.
Pa mor llydan yw hawl tramwy cyhoeddus?
Dim ond yn achlysurol y mae'r map terfynol a datganiad yn nodi lled llwybr. Ond, weithiau mae tystiolaeth ddogfennol ddibynadwy sy'n dangos y lled. Os bydd y llwybr yn drac neu'n lôn ddofn, y lled fel arfer fydd y lled gyfan rhwng y gwrychoedd, waliau neu gloddiau.
Oes modd symud hawl tramwy cyhoeddus?
Mae modd i'r perchennog tir arallgyfeirio llwybrau troed a llwybrau ceffyl o dan y Ddeddf Priffyrdd 1980 neu o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (os oes rhaid symud yr hawl tramwy am fod datblygiad a chaniatâd cynllunio wedi ei roi). Gwelwch Sut allwn i ofyn am newid yn y map terfynol? i gael rhagor o wybodaeth.
A fydd hawl tramwy newydd ei hawlio yn cael ei wella, ei darmacio, ei oleuo unwaith y mae ar y Map Terfynol?
Na. Dywedodd Linley J "Dyletswydd syrfëwyr y briffordd yw cadw'r ffordd sydd wedi'i chlustnodi ar gyfer y cyhoedd mewn cyflwr sy'n ei gwneud yn ddiogel ac yn addas i draffig arferol". Burgess v Bwrdd Lleol Northwich (1880)
Rydw i wedi reidio fy ngheffyl ar y llwybr erioed ond mae ganddo arwydd llwybr troed. Sut mae modd newid y llwybr fel ei fod yn llwybr ceffyl?
Mae'n bosibl newid statws hawl tramwy (e.e. o lwybr troed i lwybr ceffyl), er enghraifft os yw marchogion wedi defnyddio llwybr troed am flynyddoedd lawer heb gael eu herio gan y perchennog tir, efallai y byddai'n bosibl gwneud cais i 'uwchraddio'r' llwybr troed i lwybr ceffyl.
Rwyf wedi bod yn defnyddio llwybr ers blynyddoedd ac yn ddiweddar cafodd ei rwystro gan giât wedi'i gloi, ffens neu adeilad neu mae arwydd preifat newydd neu mae rhywun wedi fy stopio ac wedi dweud wrthyf am beidio defnyddio'r llwybr. Beth alla i ei wneud am hyn?
Gwiriwch a yw'r llwybr yn hawl tramwy ar y map.
Os yw'r llwybr wedi'i gofnodi fel hawl tramwy cyhoeddus, cysylltwch â'r tîm Hawl Tramwy Cyhoeddus i roi gwybod am y broblem.
Os nad yw'r llwybr wedi'i gofnodi ond mae wedi cael ei ddefnyddio ers 20 mlynedd neu fwy, efallai y byddwch eisiau gwneud cais o dan Adran 53, Deddf Priffyrdd 1980 i hawlio'r llwybr yn gyfreithiol.
Mae gen i broblem gyda llwybr ar fy nhir - ydy hi'n bosibl i mi drefnu i gau neu symud y llwybr?
Gallai perchennog tir wneud cais am orchymyn gwyro neu ddiddymu, er bod yn rhaid ateb meini prawf penodol ac mae caniatâd i'r cyhoedd gael cyfle i wrthwynebu. Cysylltwch â'r tîm Hawl Tramwy Cyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth.
Dydy'r llwybr a ddefnyddiaf ddim i'w weld ar fy map. Ydy hyn yn golygu na ddylwn fod yn defnyddio'r llwybr?
Os ydych yn defnyddio map Arolwg Ordnans mae'r rhain yn dangos hawliau tramwy cyhoeddus ond efallai bod newidiadau wedi digwydd i'r rhwydwaith ers cyhoeddi'r map Arolwg Ordnans. Mae'n syniad da i wirio'r map terfynol a'r datganiad, ond os ydych wedi bod yn defnyddio'r llwybr am nifer o flynyddoedd efallai y byddai'n bosibl ei ychwanegu at y map terfynol a'r datganiad.
Beth yw gorchymyn addasu?
Nid yw'r map terfynol a'r datganiad yn gyflawn bob amser Efallai bod rhai hawliau tramwy heb eu cynnwys ar y map ac efallai bod llwybrau eraill wedi eu cofnodi'n anghywir gyda'r statws anghywir. Gallai'r gwallau yma gael eu cywiro drwy orchymyn addasu; sef proses ffurfiol sy'n addasu'r map terfynol a'r datganiad. Mae'r Cynghorau'n prosesu gorchmynion pan ddônt ar draws tystiolaeth i ddangos bod angen newid. Ond gallai'r cyhoedd gasglu eu tystiolaeth eu hunain a gwneud cais am orchymyn. Yn aml iawn, mae hyn yn cynnwys tystiolaeth y defnyddiwr, gan bobl sydd wedi defnyddio llwybr; a thystiolaeth ddogfennol, copïau o fapiau a dogfennau hanesyddol.
Ymhle alla i weld y map terfynol a'r datganiad?
Mae'r Map Terfynol a'r Datganiadau'n cael eu cadw yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW.
Cysylltwch â'r tîm Hawl Tramwy Cyhoeddus.
Ydy'r holl lwybrau ar Fapiau Arolwg Ordnans yn Hawliau Tramwy Cyhoeddus?
Nac ydyn. Mae llwybr sydd wedi ei ddangos ar fap Arolwg Ordnans yn dangos nodwedd ffisegol a arolygwyd ac nid yw'n rhoi statws cyfreithiol i lwybrau heb eu cofrestru.
