Mae Fforymau Mynediad Lleol yn ofyniad statudol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae Fforwm Caerdydd wedi bodoli ers 2003.
Mae'n rhaid i ni recriwtio aelodau newydd bob tair blynedd. Mae gan y fforwm 12 i 20 o aelodau sy'n cynrychioli'r gymuned leol. Ein nod yw i aelodau gynrychioli ystod eang o ddiddordebau, megis:
- tirfeddianwyr,
- defnyddwyr mynediad, megis cerddwyr, beicwyr, a marchogwyr, a
- chynrychiolwyr iechyd a chadwraeth.
Mae'r fforwm yn cyfarfod o leiaf tair gwaith y flwyddyn, yn rhithwir ac yn bersonol, i ystyried pynciau, megis:
- mynediad hamdden gan gynnwys cerdded, marchogaeth, beicio mynydd, mynediad at ddŵr a gyrru oddi ar y ffordd,
- creu rhwydwaith mwy hygyrch i bawb ei ddefnyddio a'i fwynhau,
- diogelu a gwella bioamrywiaeth a chynefinoedd ger hawliau tramwy,
- monitro Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Caerdydd 2020-2030, ac
- ymateb i ymgynghoriadau amrywiol gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru CNC gan gynnwys cynlluniau datblygu lleol sy'n effeithio ar lwybrau Hawliau Tramwy.
Gallwch ddarganfod mwy yma am y Fforwm Mynediad Lleol.
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Caerdydd 2020 i 2023
Mae'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) yn gynllun 10 mlynedd i wella rhwydwaith hawliau tramwy Caerdydd. Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn nodi, blaenoriaethu a chynllunio ar gyfer gwelliannau i'r rhwydwaith.
Bydd y fforwm yn gweithio gyda ni i'n helpu i sicrhau:
- bod gwaith a wneir o fudd i bob defnyddiwr,
- bod rheolaeth y rhwydwaith yn cael ei wella, a
- bod strategaethau allweddol a nodau allweddol yn cael eu cyflawni.
