Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gorchymyn rheoleiddio traffig dros dro

Rydym yn gwneud Gorchymyn Rheoli Traffig Dros Dro (GRhTDD) yn ôl yr angen i stopio neu gyfyngu ar draffig cerbydau a/neu gerddwyr ar hyd y briffordd.

Ble mae GRhTDDau yn cael eu defnyddio?

Gellir gwneud cais am GRhTDDau ar gyfer ffyrdd, troedffyrdd neu Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTCau). Gallwn wneud GRhTDD:

  • ar gyfer sefyllfa a gynlluniwyd, neu Hysbysiad Brys os oes angen cyfyngiad ar unwaith ar gyfer sefyllfa nas cynlluniwyd.
  • i alluogi gwaith hanfodol ar y briffordd, fel gosod neu gynnal a chadw gwasanaethau fel nwy, trydan neu ddŵr
  • ar gyfer gwaith ger y briffordd fel datblygiadau mawr.

Mathau cyffredin o GRhTDDau:

  • Cau ffyrdd
  • Cyfyngiad aros
  • Cyfyngiadau pwysau
  • Gwaharddiadau Parcio a Lonydd Bws

Gallant hefyd fod ar ffurf:

  • Gwahardd troi
  • Cyfyngiad unffordd
  • Cyfyngiad cyflymder neu
  • Wahardd mynediad

Sut mae gwneud cais?

Gwnewch cais Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro ar-lein .

Faint fydd y gost?

Ffioedd GRhTDD
Math o GRhTDDFee
Hysbysiad brys£3,000
Gorchymyn 18 mis£3,800
Digwyddiad cymunedol (llai na 500 o bobl yn mynychu)£1,000
Digwyddiad mawr (dros 500 o bobl yn mynychu)£2,000

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pa fyddwch yn cyflwyno eich cais, bydd angen iddo gael ei asesu'n gyntaf i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi'u cwblhau. Pan fydd eich cais wedi ei gymeradwyo, a'r broses GRhTDD wedi ei chwblhau, byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost gyda'r dogfennau a'r llythyr eglurhaol.

Gweler hefyd