HomeSwapper yw cynllun cyfnewid tai mwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol sydd am gyfnewid cartrefi.
Mae'r cynllun ar gael am ddim i holl denantiaid Cyngor Caerdydd a thenantiaid yr holl gymdeithasau tai sy'n cymryd rhan.
Bydd HomeSwapper yn chwilio am gartrefi addas bob diwrnod ac yn anfon negeseuon atoch drwy e-bost neu neges destun.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y cynllun ewch i wefan HomeSwapper neu ffoniwch ni ar 029 2053 7522.
