Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Twyll tenantiaeth

Mae twyll tenantiaeth yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd y flwyddyn, ac mae'n cadw pobl ar y rhestr aros am gyfnod hwy gan eu rhwystro rhag cael y tai sydd eu hangen arnynt.

Mae twyllwyr tenantiaeth yn wynebu risg o golli eu cartrefi, cael eu cymryd i'r llys sirol, a hyd yn oed colli'r hawl i gael tai cymdeithasol yn y dyfodol.

Ydych chi'n adnabod rhywun sydd wedi gwneud un o'r canlynol?

  • Is-osod yr eiddo cyfan
  • Gwerthu'r allweddi i rywun arall
  • Gadael yr eiddo
  • Rhoi gwybodaeth anwir i gael tŷ cyngor.

Rhoi gwybod am dwyllwr tenantiaeth

Nid oes angen i chi roi eich enw. Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei wybod a byddwn ni'n ymchwilio i'r mater.

Rhoi gwybod am dwyllwr tenantiaeth gyda'n ffurlen, neu ffoniwch 029 2087 4500 (24 awr y dydd).

Byddwn ni'n cynnal archwiliadau ar hap yn ein heiddo hefyd, felly os gofynnir i chi brofi pwy ydych chi byddwch chi'n ein helpu i fynd i'r afael â thwyllwyr tenantiaeth.

Rhoi gwybod am rywbeth