Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau bysus ledled Caerdydd yn cael eu darparu gan weithredwyr bysus masnachol ac nid oes gan y Cyngor unrhyw fewnbwn na rheolaeth o ble na sut mae'r gwasanaethau hyn yn gweithredu. Mae hyn yn unol â Deddf Trafnidiaeth 1986 a ddadreoleiddiodd wasanaethau bysus.
Rhaid i chi gyflwyno eich cwyn am wasanaethau bysus i'r gweithredwr llwybrau perthnasol. Gallwch ddod o hyd i restr gweithredwyr llwybrau bysus ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
